Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

stressed

Dan bwysau?

Mae'r rhestrau isod yn dangos rhai o symptomau cyffredin straen corfforol a meddyliol. Nid yw pobl sy'n dioddef o straen fel arfer yn dioddef o'r holl symptomau hyn ar yr un pryd.

Symptomau corfforol:

  • problemau cysgu a blinder
  • problemau treulio bwyd (e.e. anhwylder ar y stumog, dolur rhydd)
  • newidiadau mewn archwaeth / bwyta gormod neu rhy ychydig
  • cur pen
  • poenau yn y war neu'r cefn
  • problemau gyda'r croen (e.e. brechau)
  • alergeddau
  • ceg sych
  • diffyg anadl

Symptomau Emosiynol:

  • iselder
  • sensitifedd
  • dagreuol
  • yn bryderus ac yn nerfus
  • yn methu â chanolbwyntio
  • colli diddordeb mewn rhyw
  • osgoi sefyllfaoedd cymdeithasol (e.e. noson allan gyda ffrindiau)
  • ymddwyn yn encilgar
  • ysmygu mwy /yfed mwy o alcohol / defnyddio mwy o gyffuriau

Os wyt ti'n gweld bod llawer o'r symptomau hyn gennyt ti, paid â chynhyrfu. Mae llawer o ffyrdd i fynd i'r afael â straen yn ein bywydau ni, ac i ddysgu ymdopi'n well. Cer at yr adran cyfyngder i fod yn ddi-straen i ddarganfod sut i reoli yr hyn sy'n achosi straen i ti.