Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

a caveman

Beth yw straen?

Miloedd o flynyddoedd yn ôl, roedd corff dyn wedi datblygu'r gallu hanfodol i oroesi pe byddai'n gorfod ymateb yn gyflym mewn sefyllfa o berygl (e.e. pe byddai anifail gwyllt yn ymosod arno). Mae'r corff yn ymateb trwy gynhyrchu adrenalin sy'n paratoi'r corff i ymateb yn gorfforol - yr enw ar hyn yn aml yw'r ymateb "ymladd neu ffoi".

Yn y byd cyfoes, mewn sefyllfa debyg, bydd ein cyrff yn ymateb mewn modd digon tebyg. Er hynny, yn y byd sydd ohoni heddiw, nid yw cychwyn ymladd neu redeg i ffwrdd yn atebion addas i'r problemau sy'n ein hwynebu! Mae hyn yn golygu, pan fydd pethau'n drech na ni, bod lefelau adrenalin ein cyrff yn aros mewn cyflwr argyfwng parhaol - a gall hyn achosi teimladau o anesmwythder corfforol neu feddyliol. Dyna yw straen.

Gall gormod o straen niweidio dy iechyd a lles.

Os am wybod a wyt ti'n dioddef o straen ai peidio, edrych ar y symptomau nodweddiadol yn yr adran dan bwysau?