Beth Gymerwch Chi?
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn mwynhau diod bob hyn a hyn. Fel arfer nid yw Yfed yn Gall yn gwneud unrhyw ddrwg, a gall fod yn bleserus. Fodd bynnag, ar adegau gall yfed gormod (camddefnyddio alcohol, alcohol & disgwyl babi), neu hyd yn oed yfed o gwbl (yfed a gyrru, alcohol yn y gweithle), achosi problemau. Ewch at yr adran ar Alcohol am fwy o wybodaeth ar y pynciau hyn, yn ogystal â ffeithiau ar effaith alcohol ar eich corff a'ch meddwl.
Os mai sigarennau yw'ch gwendid chi, ewch at yr adran ar Ysmygu i edrych ar rysáit sigarennau i weld beth sy'n mynd mewn i sigarennau, gwybodaeth ar pam ddylech chi roi'r gorau iddo, cyngor ar sut i roi'r gorau iddo, atebion i'ch pryderon ynghylch rhoi'r gorau iddo, gwybodaeth ar sut y gall therapy amnewid nicotin fod o gymorth, ac i gael gwybodaeth a chyngor ar ysmygu a disgwyl babi.
Sylweddau cryf yw Cyffuriau sy'n gallu effeithio ar eich ffordd o feddwl, o deimlo ac o weithredu, a gallent achosi i chi golli rheolaeth dros eich corff a'ch meddwl. Mae'r Ffeil o Ffaith ar Gyffuriau yn cynnwys gwybodaeth ar gyffuriau unigol, eu heffaith a'r risgiau sydd ynghlwm wrthynt. Mae'r adran hon hefyd yn rhoi gwybodaeth mewn perthynas â chyffuriau a'r gyfraith, gwybodaeth mewn argyfwng, cyngor ar yr hyn y dylid chwilio amdano os ydych yn Bryderus fod rhywun yn defnyddio cyffuriau efallai, a'r cyfle i brofi faint rydych yn gwybod yn y Cwis Cyffuriau.

