Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Yfed a gyrru

Yfed a gyrru

Ffaith: Ym Mhrydain mae 500 o bobl yn cael eu lladd bob blwyddyn o ganlyniad i yfed a gyrru. Mae 15,000 eraill yn cael eu hanafu.
Ffaith: Mae lefelau'r alcohol yng ngwaed 1 o bob 3 gyrrwr sy'n cael eu lladd mewn damweiniau ar y ffordd dros y terfyn cyfreithiol.

Beth yw'r terfyn cyfreithiol?

Yn ôl y gyfraith, trosedd yw gyrru gyda mwy na 80 miligram o alcohol ym mhob 100 mililitr o waed.

Fodd bynnag, mae alcohol yn effeithio ar bobl wahanol mewn ffyrdd gwahanol, gan ddibynnu ar eu rhyw, eu pwysau, eu hoedran, pa mor gyflym maent yn yfed, faint a pha mor ddiweddar maent wedi bwyta, ac os ydynt wedi cymryd unrhyw gyffuriau eraill.

Mae hefyd yn bwysig cofio:

  • Os ydych wedi bod allan yn yfed, gallwch fod dros y terfyn cyfreithiol y diwrnod wedyn
  • Dim ond amser sy'n sobri chi - nid cawod oer, awyr iach, diod o ddwr, na choffi cryf!
  • Os ydych yn gwybod fod rhywun yn gyrru, peidiwch â chynnig diod alcoholig iddynt

Gall hyd yn oed ychydig bach o alcohol amharu ar eich gallu i yrru, felly, yr ateb call yw:

OS YDYCH WEDI YFED UNRHYW ALCOHOL - PEIDIWCH Â GYRRU!

Sut mae alcohol yn effeithio ar eich gallu i yrru

Mae alcohol yn lleihau:

  • Y gallu i ganolbwyntio
  • Amser ymateb
  • Rheolaeth dros gyhyrau a'r gallu i gydsymud
  • Eglurder golwg ac ymwybyddiaeth
  • Y gallu i amcangyfrif cyflymer a phellter
  • Y gallu i ymdopi â'r annisgwyl
traffic lights

Gall hyd yn oed ychydig bach o alcohol amharu ar eich gallu i yrru:

Er nad ydych yn torri'r gyfraith efallai, gall yfed cyn lleied ag un uned o alcohol (h.y. hanner peint o lager) effeithio ar eich gallu i yrru. Ni fyddwch yn gallu amcangyfrif cyflymder cerbydau a'u pellter oddi wrthych. Ni fyddwch yn gallu gweld goleuadau sy'n symud yn iawn efallai, a byddwch yn fwy tebygol o gymryd risg, yn enwedig er enghraifft goddiweddyd mewn lle peryglus. Annoeth felly yw gyrru gyda hyd yn oed un uned o alcohol yn eich corff.

Ac, os ydych yn yfed mwy o alcohol na hynny:

Yn ogystal â thorri'r gyfraith, ni fydd eich llygaid yn gallu addasu i amodau golau sy'n newid, a ni fyddant yn sensitif i oleuadau coch (e.e. goleuadau brêc, goleuadau traffig). Byddwch yn dechrau dioddef o welediad twnnel, a bydd effaith sylweddol ar allu eich llygaid i ymateb i oleuni a thywyllwch. Gall y ffaith eich bod yn methu gweld pethau ymylol yn achosi i chi wrthdaro yn erbyn cerbydau sydd wedi'u parcio. Bydd dirywiad o safbwynt eich sylwgarwch mewn perthynas â beicwyr, cerddwyr, polion a cherbydau eraill. Byddwch yn goramcangyfrif eich gallu, a ni fyddwch yn gallu asesu pellter yn gywir. Bydd effaith difrifol ar eich gallu i ganolbwyntio, a bydd amhariad ar eich amser ymateb, felly mewn argyfwng byddai angen llawer mwy o amser arnoch i stopio. Efallai y byddwch yn cael problemau mawr wrth drin eich car. Byddech yn berygl go iawn i chi'ch hunan ac i unrhyw un arall ar y ffordd unrhyw le'n agos i chi.

MAE HYN OLL YN GOLYGU EICH BOD LLAWER MWY TEBYGOL O GAEL DAMWAIN.

Mae'n bwysig cofio nad chi yw'r unig un sy'n cael ei effeithio gan yfed a gyrru. Gallwch hefyd achosi niwed ofnadwy i fywydau pobl eraill.

Does dim esgus dros Yfed a Gyrru:

Yn lle hynny, gallwch:

  • Gymryd eich tro i yrru
  • Archebu tacsi
  • Defnyddio cludiant cyhoeddus
  • Aros dros nos

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

Seilir yr wybodaeth ar y dudalen hon ar y ffynonellau canlynol (gyda'u caniatâd caredig):
- "Alcofacts: A Guide to Sensible Drinking" a gynhyrchwyd gan The Health Promotion Division, 1999
- www.roadsafetyuk.co.uk