Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Y ffeithau

Ffaith: Iselydd yw alcohol. Gall achosi i chi fod yn ymosodol ac yn ddadleugar. Gall achosi i chi golli hunanreolaeth a'r gallu i gydsymud - gall hyn olygu eich bod yn gwneud pethau na fyddech chi fel arall.
Ffaith: Dim ond hyn a hyn o alcohol mae'r corff yn gallu ymdopi â fo. Gweler Camddefnyddio Alcohol am fwy o wybodaeth ar y straen mae alcohol yn gallu rhoi ar eich corff.
Ffaith: Bob blwyddyn mae 28,000 o bobl ym Mhrydain yn marw o ganlyniad i faint o alcohol maent yn ei yfed.
Ffaith: Mae cyswllt rhwng 40% o dannau yn y cartref a phobl sydd wedi bod yn yfed alcohol.
Ffaith: Ym Mhrydain, mae 500 o bobl yn cael eu lladd bob blwyddyn o ganlyniad i yfed a gyrru.
Ffaith: Mae alcohol yn ffactor mewn o leiaf 7% o farwolaethau o ganlyniad i foddi.
Ffaith: Mae tua 1,000 o blant dan 15 oed yn cael eu cymryd i'r ysbyty bob blwyddyn oherwydd gwenwyniad alcohol llym. Mae angen triniaeth frys ar bob un ohonynt.
Ffaith: Mae pobl sy'n cael rhyw ar ôl bod yn yfed alcohol yn llai tebygol o ddefnyddio condom, sy'n cynyddu'r tebygolrwydd o ddal haint a drosglwyddir yn rhywiol.

Ewch at yr adrannau Yfed yn Gall a Camddefnyddio Alcohol am fwy o wybodaeth.