Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Camddefnyddio alcohol

Gall yfed gormod o alcohol effeithio arnoch o safbwynt corfforol, meddyliol a chymdeithasol.

Damweiniau a dechrau cwffio

Yn gorfforol, yn y tymor byr, gall yfed gormod o alcohol arwain at:

  • Gyfog
  • Chwydu
  • Cur Pen
  • Pen Mawr
  • Ennill Pwysau
  • Damweiniau a dechrau cwffio
  • Risg o farw trwy ddamweiniau, gwenwyniad alcohol llym neu dagu ar eich chwyd eich hunan.
Pwysedd gwaed uchel

Yn y tymor hwy, gall yfed gormod o alcohol arwain at:

  • Anhwylderau'r stumog (e.e. wlserau)
  • Canser y geg, y gwddf a'r corn gwddf
  • Niwed i'r ymennydd
  • Pwysedd gwaed uchel, sy'n cynyddu'r risg o gael strôc a chlefyd coronaidd y galon
  • Clefyd y cyhyrau
  • Problemau gyda'r brif system nerfol

O safbwynt meddyliol, gall yfed gormod o alcohol arwain at:

  • Bryder
  • Insomnia
  • Iselder
  • Newid mewn personoliaeth
  • Ymgais at hunanladdiad
  • Hunanladdiad
black-eye

O safbwynt cymdeithasol, mae yfed gormod o alcohol yn arwain at:

  • Ddifrod Troseddol
  • Beichiogrwydd Digroeso
  • Dadleuon Teuluol
  • Esgeuluso a chamddefnyddio plant
  • Trais Teuluol
  • Problemau yn y gweithle

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

Atgynhyrchwyd yr wybodaeth ar y dudalen hon o "Alcofacts: A Guide to Sensible Drinking" a gynhyrchwyd gan The Health Promotion Division, 1999