Alcohol a disgwyl babi
Mewn gwirionedd does neb yn gwybod yn iawn a oes lefel "diogel" o alcohol pan mae menyw yn disgwyl babi, ac mae llawer o arbenigwyr yn argymell y dylai merch, sy'n amau ei bod hi'n disgwyl, roi'r gorau i yfed alcohol ar unwaith. Mae eraill yn credu ni ddylai merch sy'n credu ei bod hi'n disgwyl, neu sy'n ceisio mynd yn feichiog, yfed mwy nag un neu ddwy uned o alcohol, unwaith neu ddwywaith yr wythnos.
Pan fydd merch sy'n disgwyl yn yfed alcohol, mae'r alcohol yn trosglwyddo'n gyflym i'w gwaed, ar draws y brych ac i'r babi. Mae yfed alcohol, yn enwedig yn yr ystod wythnosau cynnar, yn peryglu datblygiad y babi, ac, mewn rhai achosion gall hyd yn oed achosi namau geni corfforol a meddyliol gydol oes.
Mae merched sy'n yfed yn ormodol ar hyd yr amser pan yn disgwyl (h.y. fel arfer pedwar neu bum ddiod, neu fwy, y dydd), neu sy'n cael pyliau o yfed, yn fwy tebygol o gael erthyliad naturiol neu farw-enedigaeth, neu o eni ar fabi pwysau isel sy'n dioddef o arafwch meddyliol a thwf difrifol, neu o broblemau seicolegol neu ymddygiadol, abnormaleddau wynebol, a namau ar y galon ac organau eraill.
Os bydd merch sy'n disgwyl yn yfed alcohol yn gymedrol tra mae'n disgwyl (h.y. un neu ddwy uned o alcohol bob dydd), mae hi'n fwy tebygol o eni ar blentyn sydd â phroblemau gorfywiogrwydd, cyfnod canolbwyntio gwael, ac anawsterau dysgu siarad.
Os ydych yn bwriadu defnyddio alcohol i ymlacio, dylech geisio newid eich gwydraid o win neu gwrw arferol ar gyfer gweithgaredd ymlacio arall - bath cynnes efallai, gwrando ar gerddoriaeth i ymlacio, gwneud ychydig o ymarfer tawel, darllen llyfr, neu gael sesiwn tylino. Os ydych yn gweld eisiau'r arfer o gael diod gyda'ch pryd gyda'r hwyr, dylech newid i gwrw neu win heb alcohol.
Yn gyffredinol, y cyngor yw y dylech fod yn ofalus wrth yfed tra rydych yn disgwyl babi.
Mae'r risgiau i'r babi'n cynyddu os ydych hefyd yn ysmygu tra'n disgwyl, yn defnyddio cyffuriau amser hamdden neu os nad ydych yn gofalu amdanoch chi'ch hunan, er enghraifft trwy beidio â bwyta diet cytbwys.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

