Yfed yn gall
Mae diodydd alcoholig amrywiol yn cynnwys meintiau gwahanol o alcohol pur. "Unedau" a ddefnyddir i fesur faint o alcohol mewn diod arbennig.
Mae un uned gymesur ag un mesur mewn tafarn. Mae'r mesurau tafarn normal canlynol yn cynnwys un uned o alcohol yr un:
Un gwydraid bach o win |
Un mesur sengl o wirodydd tafarn |
Hanner peint o gwrw, lager neu seidr cryfder normal |
![]() |
![]() |
![]() |
Mae'n bwysig cofio:
- Fod llawer o fathau o gwrw a gwin yn gryfach na'r cyfartaledd.
- Yn aml iawn mae coctels ac alcopops yn uchel iawn o safbwynt cynnwys alcoholig, sydd yn aml iawn yn cael ei guddio gan flas sudd ffrwythau.
- Mae diodydd adref fel arfer yn gryfach na'r mesur a geir mewn tafarn.
Trwy gyfrif yr unedau, gallwch gadw cownt o faint o alcohol mae rhywun yn yfed, a gallwch gadw o fewn terfynau diogel.
Terfyn yfed wythnosol call yw:
- I ddynion - 21 uned
- I ferched - 14 uned
Fodd bynnag, y ffordd fwyaf peryglus i yfed yw "pwl gor-yfed" neu yfed llawer mewn un sesiwn. Ni ddylech felly yfed cyfanswm eich terfyn yfed wythnosol ar nos Sadwrn.
Byddai terfyn yfed dyddiol call fel a ganlyn.
- I ddynion - 3 i 4 uned
- I ferched - 2 i 3 uned
Mae'n syniad da cael un neu ddau o ddyddiau di-alcohol bob wythnos, er mwyn rhoi amser adfer i'ch corff.
Os ydych yn disgwyl babi neu'n ceisio mynd yn feichiog, mae'n bwysig eich bod yn lleihau faint o alcohol rydych yn ei yfed - gweler yr adran Alcohol a Disgwyl Babi.
Hefyd mae rhai sefyllfaoedd yn bodoli pan ddylech chi BYTH yfed alcohol:
- Cyn neu wrth yrru (gweler yr adran Yfed a Gyrru)
- Cyn defnyddio peiriannau, neu offer trydanol neu os ydych chi'n gweithio ar safle uchel (gweler yr adran Alcohol yn y Gweithle)
- Cyn gwneud unrhyw chwaraeon neu nofio
- Wrth gymryd meddyginiaethau arbennig - dylech edrych ar y labeli a gofyn i'ch meddyg os nad ydych yn sicr.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Yn seiliedig ar "Alcofacts: A Guide to Sensible Drinking" a gynhyrchir gan the Health Promotion Division, 1999




