Alcohol a'r gweithle
Fel arfer, gwelir yfed alcohol fel gweithgaredd pleserus a chymdeithasol. Fodd bynnag, nid yw'r gweithle fel arfer yn cael ei ystyried yn lle addas i yfed alcohol. A dweud y gwir, gall cyfuniad o alcohol a gwaith fod yn hynod beryglus. Mewn llawer o swyddi, gall alcohol arwain at anaf neu at gynnydd yn y nifer o ddamweiniau, o ganlyniad i:
- Amharu ar y golwg
- Amser ymateb arafach
- Dirywiad yn y gallu i ganolbwyntio
- Dirywiad yn y gallu i gydsymud
- Dirywiad yn y gallu i wneud penderfyniad
Mewn unrhyw weithle, gall alcohol hefyd arwain at broblemau megis:
- Bod yn hwyr
- Mwy o amser i ffwrdd
- Llai o ysgogiad
- Agwedd wael
- Morâl isel
- Diffyg gallu i ganolbwyntio
- Perfformiad gwael
- Lleihad mewn effeithlonrwydd
- Dirywiad yn ansawdd y gwaith
- Penderfyniadau gwael
- Dirywiad yn y cydweithio rhwng cydweithwyr
- Niweidio perthynas gyda chwsmeriaid
- Pryderon ynghylch diogelwch
- Ymddygiad gwael
- Disgyblaeth wael
- Dwyn
- Trais
Gall problemau fel hyn deillio nid yn unig o ganlyniad i rywun yn yfed alcohol cyn mynd ar ei sifft, yn ystod oriau gwaith, amser cinio neu yn ystod egwyl de. Gall effeithiau yfed yn drwm y noson gynt hefyd barhau tan y diwrnod wedyn hefyd.
Y dyddiau hyn, mae mwy a mwy o gwmnïau'n llunio polisïau'n ymwneud ag alcohol yn y gweithle, yn enwedig mewn perthynas â swyddi lle mae "diogelwch yn hanfodol" (e.e. gyrwyr trenau, peilotiaid, dynion tân, parafeddygon ac ati).

