Cyffuriau
Sylweddau cryf yw cyffuriau sy'n gallu effeithio ar eich ffordd o feddwl, teimlo a gweithredu, a gallent achosi i chi golli rheolaeth dros eich corff a'ch meddwl.
Mae pobl sy'n cymryd cyffuriau yn gwneud hyn am bob math o resymau. Mae rhai pobl yn eu defnyddio oherwydd eu bod yn credu y gall cyffuriau achosi iddynt anghofio eu pryderon, oherwydd bod eu ffrindiau'n gwneud, oherwydd eu bod yn awyddus i wybod sut byddant yn teimlo, neu oherwydd eu bod yn credu y gall fod yn hwyl.
Beth bynnag fo'u rheswm, mae'n bwysig eu bod yn ymwybodol o effeithiau cyffuriau ar y corff a'r meddwl, a'r risgiau sydd ynghlwm wrth eu cymryd.
Gellir rhannu'r rhan fwyaf o gyffuriau i dri grwp cyffredinol:
- Symbylyddion:
Sef cyffuriau sy'n symbylu'r brif system nerfol, yn cynyddu cyfradd curiad y galon a gweithgaredd yr ymennydd
e.e. cocên, ecstasi, amffetaminau, tybaco, caffein - Iselyddion:
Sef cyffuriau sy'n digalonni'r brif system nerfol ac yn arafu gweithgaredd yr ymennydd
e.e. alcohol, heroin, tawelyddion, hydoddyddion - Rhithbeiriau:
Sef cyffuriau sy'n effeithio ar y meddwl, yn newid canfyddiad ac yn aflunio'r ffordd y mae defnyddwyr yn gweld ac yn clywed pethau
e.e. canabis, ketamin, LSD, madarch hud
Cliciwch ar ffeil o ffaith ar gyffuriau i gael hyd i wybodaeth ynghylch cyffuriau unigol, eu heffeithiau posibl a'r risgiau sydd ynghlwm wrthynt.

