Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

ambiwlans

Gwybodaeth mewn argyfwyng

Os ydych yng nghwmni rhywun sy'n dioddef o sgil effeithiau negyddol o ganlyniad i gymryd cyffuriau, gall bygwth bywyd yr unigolyn hwnnw. Fyddech chi'n gwybod beth i'w wneud pe byddai ffrind yn cael ymateb drwg neu'n mynd yn sâl ar ôl cymryd cyffur?

Os bydd eich ffrind yn dioddef o dyndra a phanig:

Symptomau:

  • yn cael trafferth i anadlu, neu'n anadlu'n gyflym iawn
  • yn cael trafferth llyncu
  • yn dioddef o gur pen, poen cefn, poenau yn y frest a chrychguriadau
  • yn chwysu neu'n crynu
  • yn ysgwyd drosto
  • yn nerfus a llawn panig

Beth ddylech ei wneud:

  • ei [d]thawelu a'i [g]chysuro - dweud wrtho/i y bydd yn teimlo'n well cyn bo hir
  • mynd ag ef/hi rhywle tawel, gyda goleuadau gwan (i ffwrdd o'r gerddoriaeth a goleuadau llachar)
  • os bydd eich ffrind yn dechrau anadlu'n gyflym, bydd angen ei [h]annog i anadlu'n araf ac yn ddwfn

Os bydd eich ffrind yn mynd yn gysglyd iawn (ond mae dal yn ymwybodol)

Symptomau:

  • amrantau'n gwyro
  • siarad yn aneglur
  • pen yn nodio
  • anfodlon symud

Beth ddylech ei wneud:

  • ei [th]dawelu a'i [ch]gysuro
  • peidiwch â'i [d]dychryn neu ei syfrdanu, na gadael iddo/iddi wneud dim byd rhy egniol
  • os mae'ch ffrind yn sychedig iawn, rhowch lymeidiau o ddwr llugoer iddo/iddi - ond BYTH coffi
  • peidiwch â gadael i'r ffrind fynd i gysgu, oherwydd gall fynd yn anymwybodol. Mae angen ei [g]chadw'n effro trwy siarad ag ef/hi a mynd ag ef/hi am dro
  • os bydd cyflwr eich ffrind yn gwaethygu, rhowch ef/hi yn yr ystum adferol - dylech siarad ag ef/hi trwy'r amser i'w[h]atal rhag fynd yn anymwybodol
  • os oes angen, ffoniwch am ambiwlans, neu gofynnwch i rywun arall wneud hyn (peidiwch â gadael eich ffrind wrth ei hunan)
  • dwedwch wrth y gwasanaethau brys pa gyffur neu gyffuriau mae'ch ffrind wedi eu cymryd - gall achub ei [f]bywyd.

Os bydd eich ffrind yn mynd yn rhy boeth ac yn ddadhydredig

Symptomau:

  • cur pen
  • cramp
  • penysgafnder
  • blinder sydyn
  • teimlo'n egwan
  • teimlo'n boeth iawn
  • edrych yn welw ac yn chwyslyd
  • talcen wedi gwrido

Beth ddylech ei wneud:

  • ei symud i fan oer a thawel
  • tynnu unrhyw ddillad gormodol a cheisio ei oeri drwy dasgu dwr arno/i a'i ffanio
  • ei annog i gymryd llymaid o ddiodydd di-alcohol megis dwr, sudd ffrwythau, diodydd isotonig neu Coca-Cola (tua pheint bob awr)
  • os nad yw'r ffrind yn gwella, neu os mae i'w weld yn gwaethygu, ffoniwch am ambiwlans - ond gwnewch yn siwr fod rhywun yn aros gydag ef/hi
  • dwedwch wrth y gwasanaethau brys pa gyffur neu gyffuriau mae'ch ffrind wedi eu cymryd - gall achub ei [f]bywyd.

Os bydd eich ffrind yn mynd yn anymwybodol

Beth ddylech ei wneud:

  • peidiwch â chymryd yn ganiataol fod eich ffrind yn cysgu - galwch ef/hi wrth ei [h]enw a'i [h]ysgwyd yn dawel
  • os nad yw'n ymateb, dylech ei r[h]oi yn yr ystum adferol, i wneud yn siwr nad yw'n tagu ar ei chwyd ei hunan
  • gwneud yn siwr fod y ffrind yn dal i anadlu - dylech fod yn barod i adfywio ceg wrth geg os nad yw'n anadlu
  • ffonio'r ambiwlans neu ofyn i rywun arall wneud hyn (peidiwch â gadael eich ffrind wrth ei hunan)
  • ei [g]chadw'n gynnes, ond nid yn rhy boeth. Os mae'n teimlo'n rhy gynnes, dylech dynnu unrhyw ddillad gormodol a gwneud yn siwr ei [f]bod yn cael digon o awyr iach
  • dwedwch wrth y gwasanaethau brys pa gyffur neu gyffuriau mae'ch ffrind wedi eu cymryd - gall achub ei [f]bywyd.

Yr Ystum Adferol

Yr Ystum Adferol

Yn seiliedig ar wybodaeth oddi wrth: Wefan Yr Adran Iechyd, “Mind, Body, Soul” website (www.mindbodysoul.gov.uk)