Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

alcohol

Alcohol

Enwau poblogaidd:

"booze", "bevvy", "juice", "sauce", "brews", "grog", "piss", ac ati.

Beth yw hyn:

Cynnyrch naturiol sy'n deillio o ffrwythau, llysiau neu rawn sy'n eplesu.

Sut i'w ddefnyddio:

Mae'n cael ei yfed mewn diodydd megis cwrw, lager, alcopops, seidr, gwin a gwirodydd. Mae lefel yr alcohol mewn diod yn cynyddu gyda chynnydd yn y % sy'n ymddangos ar y label.

Yr effeithiau 'da':

Wrth yfed ychydig bach, gall pobl teimlo wedi ymlacio ac yn gymdeithasol. Mae'n gallu gwneud pobl yn siaradus, ac yn fwy tebygol o wneud pethau na fyddent fel arall yn ystyried eu gwneud pan yn sobr.

Yr effeithiau 'drwg':

Gall alcohol achosi golwg aneglur dros dro, lleferydd aneglur, colli cydbwysedd, diffyg gallu i wneud penderfyniad, colli'r gallu i symud yn iawn, ac emosiynau mwy dwys. Oherwydd bod alcohol yn effeithio ar allu rhywun i wneud penderfyniad, mae anafiadau a damweiniau'n fwy tebygol o ddigwydd. Mae yfed alcohol yn gallu achosi "pen mawr" sy'n gwneud i rywun deimlo'n sâl am ddiwrnod neu ddau. Cyffur iselydd yw alcohol - os wyt ti'n teimlo'n isel, bydd yfed alcohol yn gwneud i ti deimlo'n waeth. Gall yr arfer o gymysgu alcohol gyda chyffuriau eraill fod yn beryglus iawn. Gall rhywun fynd yn gaeth i alcohol o safbwynt corfforol a seicolegol. Gall gorddefnyddio alcohol dros gyfnod hir arwain at broblemau difrifol yn yr iau, y galon a'r stumog. Gall gorddos o alcohol achosi gwenwyniad alcohol, sydd mewn rhai enghreifftiau'n gallu bod yn ANGHEUOL. Gall rhywun hefyd fynd yn anymwybodol oherwydd gorddos o alcohol, ac yn sgil hynny, mae 'na berygl o dagu ar ei chwyd ei hunan, a gall hyn hefyd fod yn ANGHEUOL.

Y gyfraith:

Yn gyffredinol, mae'n anghyfreithlon i unrhyw un dan 18 oed brynu alcohol, neu i rywun arall sy'n gwybod ei oedran i brynu alcohol iddynt.

Am fwy o wybodaeth, cer at yr adran ar alcohol.

Other drugs: