Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

amffetaminau

Amffetaminau

Enwau poblogaidd:

Speed, base, billy whizz, crystal, Dexedrine, glass, ice, ritalin, sulph, sulphate, uppers, wake ups, whiz, whites, ac ati.

Sut olwg sydd arno?

Mae amffetaminau'n gyffuriau synthetig, sydd fel arfer ar ffurf powdr gwyn sy'n edrych fel halen, neu weithiau bydd ar ffurf tabled neu bast. Gellir llyncu, neu chwistrellu amffetaminau; ond mae gan bob un ei risg. Yn aml, bydd pobl sy'n gwerthu cyffuriau yn eu cymysgu â phowdrau gwyn eraill (gall y rhain amrywio o bwdr talc i lanhawyr toiled neu dabledi llyngyr, yn yr achosion gwaethaf) er mwyn cynyddu'r cyfaint sydd ganddynt i'w werthu ac i wneud mwy o elw.

Yr effeithiau 'da':

Mae Amffetaminau'n gryf iawn - byddant yn cyflymu'ch corff cyfan, yn llythrennol. Maent yn gwneud i chi demlo'n fwy hyderus ac yn llawn egni. Byddant yn gwneud i chi anadlu'n gynt, yn eich gwneud iawn siaradus, yn llethu'ch archwaeth am fwyd ac yn eich atal rhag bod angen cwsg.

Yr effeithiau 'drwg':

Tra fyddwch yn profi'r effeithiau 'da', bydd eich calon yn curo'n gynt a bydd eich pwysedd gwaed yn codi, sy'n beryglus. Wedyn, byddwch yn aflonydd, yn ddryslyd ac yn isel eich ysbryd. Bydd eich hwyliau'n newid, eich tymer yn ddrwg iawn ac ni fydd eich croen yn iach. Bydd pobl sydd wedi cymryd llawer o'r cyffur yn dwdlan patrymau ailadroddus neu'n ailadrodd pethau dro ar ôl tro. Mae crensian eich dannedd a chnoi y tu mewn i'ch boch hefyd yn sgil effaith cyffredin.

Beth a ddywed y gyfraith?

Mae Amffetamin yn gyffur Dosbarth B, ond yn symud i Ddosbarth A os byddant wedi'u paratoi i'w chwistrellu. Gweler Cyffuriau - Y Gyfraith am fwy o wybodaeth.

Other drugs:

Atgynhyrchwyd yr wybodaeth hyn gyda chaniatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom