Cocên
Enwau poblogaidd:
Charlie, charge, chang, chaz, coke, coca paste, draw, snow, toot, ac ati.
Sut olwg sydd arno?
Mae'r rhan fwyaf o gocên a werthir ar y strydoedd yn edrych fel halen mân. Bydd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn rhannu'r cocên yn 'linellau mân' trwy ddefnyddio llafn rasel neu gerdyn credyd, ac yna'n ei sniffian i fyny un ochr y trwyn trwy bowdr bach, neu trwy gerdyn neu nodyn banc wedi'i rolio. Bydd rhai pobl yn rhwbio cocên ar eu gymiau, a fydd yn peri i'r gymiau fynd i gysgu. Gan bod cocên yn ddrud iawn, a bydd pobl sy'n ei werthu'n ceisio gwneud cymaint o elw â phosibl, gwyddys eu bod yn ei gymysgu gydag unrhyw bowdr gwyn arall.
Yr effeithiau 'da':
Mae Cocên yn symbylydd. Byddwch yn teimlo rhuthr o gyffro, ac yna hunan-hyder a theimlad llesol. Byddwch yn teimlo fel pe baech yn sylwi'n well ar bethau fydd yn digwydd o'ch cwmpas. Os byddwch yn teimlo'n llwglyd, neu'n flinedig, neu mewn poen, bydd y rhain yn lleihau'n raddol.
Yr effeithiau 'drwg':
Yn ddiweddarach, byddwch yn flinedig ac yn isel, ac yna'n bryderus neu'n llawn panig. Bydd yr effeithiau 'da' yn para tua 30 munud, ond cyn pen dim bydd yn rhaid dilyn un llinell o cocên gydag un arall. Bydd llawer o'r cyffur yn gwneud i chi deimlo'n aflonydd a theimlo paranoia, ac fe allwch gael rhithweledigaethau. Os ydych yn defnyddio cocên yn rheolaidd, rydych yn dod i ddibynnu ar ei effeithiau. Gallwch fod yn ddibynol yn feddyliol ar y cyffur, a bydd yn rhaid i chi gymryd mwy ohono i deimlo'r un effeithiau. Byddwch yn teimlo'n aflonydd ac yn chwydlyd yn barhaus, yn methu â chysgu ac fe fyddwch yn colli pwysau. Gall sniffian y cyffur dro ar ôl tro niweidio tyllau'ch trwyn, a gall gormodedd arwain at broblemau anadlu neu hyd yn oed i'ch calon fethu a gweithio. Os byddwch yn chwistrellu cocên gyda nodwydd a ddefnyddwyd eisoes gan rywun arall, bydd perygl i chi ddal afiechydon fel HIV, a Hepatitis B a C.
Beth a ddywed y gyfraith?
Mae Cocên yn gyffur Dosbarth A, sydd â'r cosbau llymaf os cewch eich dal gyda'r cyffur yn eich meddiant, yn ei ddefnyddio neu yn ei gyflenwi. Gweler Cyffuriau - Y Gyfraith am fwy o wybodaeth.
Other drugs:
- alcohol
- amffetaminau
- amyl nitrad
- cannabis
- cocên
- crack
- ecstasi
- GHB (gamma-hydroxybutyrate)
- heroin
- hydoddion
- ketamin
- khat
- LSD
- madarch
- rohypnol
- steroidau anabolig
- tybaco
- tawelynnau
Atgynhyrchwyd yr wybodaeth hyn gyda chaniatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom

