Crack
Enwau poblogaidd:
Base, freebase, pebbles, rock, scud, stone, wash ac ati.
Sut olwg sydd arno?
Cocên yw crack sydd wedi'i brosesu a gall fod yn 80-100% cocên pur, sydd lawer yn uwch ac felly'n fwy peryglus o lawer na chocên a werthir ar y strydoedd. Fel arfer, bydd crack ar ffurf crisialau sy'n debyg i gerrig bychain. Mae rhai o'r darnau'n edrych fel gronnynnau o dywod. Maent yn amrywio o ran lliw, o felyn golau i binc neu wyn.
Yr effeithiau 'da':
Mae ysmygu crack yn golygu y bydd y cyffur yn mynd yn syth i'ch ymennydd mewn eiliadau, a bydd yr effeithiau'n para am uchafswm o 15 munud. Mae'n rhoi teimlad ewfforig dwys i chi, a rhuthr enfawr o egni. Fe all y cyffur hefyd wneud i chi deimlo'n llesol ac yn rymus.
Yr effeithiau 'drwg':
Gan bod yr effeithiau 'da' mor ffyrnig, mae hynny hefyd yn wir am yr effeithiau 'drwg'. Gallwch ysgwyd yn afreolus, bod yn aflonydd a chynu fel pe baech mewn rhewgist, teimlo'n flinedig ac yn isel iawn, a bydd eich pen a'ch corff yn boenus. Byddwch yn paranoid, yn flin ac yn ffyrnig. Gall yr effeithau hyn bara am ddyddiau, a fydd yn peri i chi ysu am fwy o'r cyffur er mwyn codi'ch hwyliau unwaith eto.
Beth a ddywed y gyfraith?
Mae Crack, fel cocên yn gyffur Dosbarth A, sy'n golygu ei fod yn anghyfreithlon meddu arno, ei werthu neu ei roi i'ch ffrindiau. Gweler Cyffuriau - Y Gyfraith am fwy o wybodaeth.
Other drugs:
- alcohol
- amffetaminau
- amyl nitrad
- cannabis
- cocên
- crack
- ecstasi
- GHB (gamma-hydroxybutyrate)
- heroin
- hydoddion
- ketamin
- khat
- LSD
- madarch
- rohypnol
- steroidau anabolig
- tybaco
- tawelynnau
Atgynhyrchwyd yr wybodaeth hyn gyda chaniatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom

