Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

ecstasi

Ecstasi

Enwau poblogaidd:

E, adam, XTC, disco biscuits, diet pills, love doves, rhubarb and custard, dennis the menace, shamrocks, sweeties, ac ati.

Sut olwg sydd arno?

Mae maint a lliw tabledi ecstasi'n amrywio, ac yn aml bydd ganddynt lun neu logo syml arnynt, fel wyneb yn gwenu, y llythyren 'e', neu golomen.

Yr effeithiau 'da':

Tua 30 munud ar ôl i chi gymryd tabled ecstasi byddwch yn dechrau teimlo teimlad tebyg i rwnan dros eich corff. Gall y cyffur beri i chi beidio â bod yn ofnus, ac i gael mwy o allu i ryngweithio gyda phobl eraill, sy'n digwydd yn rannol oherwydd ataliad eich pryderon. Hefyd, byddwch yn ymateb yn wahanol i'r cyffur yn ôl y sefyllfa rydych ynddi. Os byddwch mewn clwb, byddwch yn dawnsio am oriau'n ddiddiwedd heb flino, gan y bydd gennych cymaint o egni. Er y gallwch chi fod yr un mor hapus yn ymlacio mewn man distawach. Yn dibynu ar ansawdd y cyffur, gall yr effeithiau bara rhwng tair ac wyth awr.

Yr effeithiau 'drwg':

Bydd eich ceg yn sychu, eich pwysedd gwaed yn codi, eich calon yn curo'n gynt ac fe allwch ddechrau cael rhithweledigaethau. Fe allwch chi hefyd deimlo'n chwydlyd. Yn ddiweddarach, wedi i'r effeithiau 'da' ddod i ben, byddwch yn flinedig ac yn teimlo'n isel, ac fe all hyn bara cwpl o ddiwrnodau. Os ydych wedi cymryd llawer o'r cyffur, fe allech demlo'n aflonydd ac yn ddryslyd, ac yn methu â chysgu. Er nad oes tystiolaeth bendant o'r effeithiau hir dymor, gall y sgil effeithiau gynnwys colli pwysau, blinder eithafol, ôl-fflachiau ac iselder. Ymhlith y sgil-effeithiau difrifol y gallech eu dioddef y mae coma, gall eich arennau fethu â gweithio ac fe allech orboethi.

Beth a ddywed y gyfraith?

Mae ecstasi'n gyffur Dosbarth 'A', sef yr un categori â heroin a chocên. Felly, mae'n anghyfreithlon meddu arno, ei roi neu ei werthu i unrhyw un. Gweler Cyffuriau - Y Gyfraith am fwy o wybodaeth.

Other drugs:

Atgynhyrchwyd yr wybodaeth hyn gyda chaniatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom