Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

GHB

GHB (Gamma-hydroxybutyrate)

Enwau poblogaidd:

GBH, grievous bodily harm, liquid X, liquid E, gamma-O.

Beth yw ei bwrpas?

GHB yw un o'r cyffuriau rhyfeddaf rydych yn debygol o ddod ar ei draws. Er nad yw wedi'i ddefnyddio erioed yn feddygol yn y DU, fe'i defnyddir mewn gwledydd eraill i drin iselder, straen, anhwylderau cysgu a symptomau diddyfnu alcoholigion sy'n gwella a symptomau diddyfnu oddi ar gyffuriau. Fe'i defnyddiwyd hefyd i leddfu poen wrth eni plant. Gwerthwyd y cyffur ar un adeg mewn siopau bwydydd iach i bobl sy'n ceisio magu cyhyrau, ond roedd rhaid rhoi'r gorau i'w werthu ym 1990 oherwydd ei sgil-effeithiau gwael. Mae GHB wedi'i gysylltu â "Threisio yn sgîl Cyffuriau" gan fod ei effeithiau'n debyg i rai Rohypnol, sef y gall beri i chi golli rheolaeth, a'ch gwneud chi'n fwy agored i niwed.

Sut olwg sydd arno?

Fel arfer, bydd ar ffurf pwdr neu hylif clir.

A fyddaf yn gallu dweud bod fy niod wedi cael ei sbeicio?

Mae'n annhebyg iawn, gan fod yr hylif yn ddi-oglau, ac yn blasu ychydig yn hallt ond ni ellir ei flasu mewn diod. Gweler Trais Ac Ymosodiad am fwy o wybodaeth.

Beth yw effeithiau'r cyffur?

Gall cyffuriau effeithio arnoch chi mewn gwahanol ffyrdd, yn dibynnu ar eich hwyliau pan fyddwch yn cymryd y cyffur, os yw'r cyffur wedi'i gymysgu ag alcohol, lle rydych chi, gyda phwy rydych chi a faint sy'n cael ei gymryd. Gall GHB gael gwahanol effeithiau yn ôl faint a gymerir. Gall cymryd llai o'r cyffur gael effeithiau tebyg i alcohol; gall wneud i chi ymlacio, teimlo'n hapus ac yn gymdeithasol. Gall gymryd mwy o'r cyffur wneud i chi deimlo'n benysgafn, yn ddryslyd, gall effeithio ar eich lleferydd, neu ar eich cof, gwneud i chi chwydu a'ch gwneud yn anymwybodol.

Am faint fydd yr effeithiau'n para?

Mae'n dibynu'n llwyr ar faint a gymerir. Gall bara o 5 munud hyd at awr, er bod defnyddwyr eraill wedi taeru i'r effeithiau wedi para trwy'r dydd.

Other drugs:

Atgynhyrchwyd yr wybodaeth hyn gyda chaniatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom