Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

A syringe

Heroin

Enwau poblogaidd:

H. Horse, skag, junk, smack, brown, dragon, gear, ac ati.

Sut olwg sydd arno?

Ceir heroin ar dair ffurf, sef powdr gwyn, llwyd neu frown ac fe ellid ei sniffian, ei ysmygu, ei lyncu neu ei chwistrellu.

Yr effeithiau 'da':

Mae heroin yn boenladdwr cryf, sy'n arafu'r system nerfol ac yn atal yr ymennydd a'r corff rhag teimlo pob math o boen, felly bydd cymryd ychydig o'r cyffur yn rhoi rhuthr byr o ewfforia dwys i'r defnyddiwr, cymharwyd hyn yn aml ag orgasm rhywiol, yna bydd y defnyddiwr yn teimlo'n gynnes ac wedi ymlacio'n bleserus. Gall cymryd mwy o'r cyffur eu gwneud yn flinedig, yn fodlon, yn ddiogel ac wedi ymlacio.

Yr effeithiau 'drwg':

Gall y profiad amrywio o un defnyddiwr i'r llall. Fodd bynnag ymhlith yr effeithiau byrdymor y mae chwydu, blinder, a rhwymedd. Gan ei fod yn hawdd iawn dod yn gaeth i'r cyffur, ymhlith yr effeithiau hirdymor y mae colli awydd am ryw, prinder egni a cholli diddordeb mewn bywyd yn gyffredinol. Gall rhannu offer chwistrellu gynyddu'r perygl o ddal HIV a Hepatitis B a C. Hefyd, y caiff heroin ei gymysgu â llawer o wahanol bethau, does dim ffordd o wybod pa mor gryf yw'r cyffur ac felly mae perygl cymryd gormod. Pan fydd defnyddwyr yn rhoi'r gorau i gymryd heroin, bydd yr effeithiau diddyfnu'n cychwyn tua wyth awr wedi i'r person gymryd y cyffur am y tro diwethaf, a fydd yn peri i'r defnyddiwr fod yn bryderus, yn aflonydd, ac yn peri iddynt ysu am ddos arall. Yna, bydd y person yn chwysu, bydd eu llygaid a'u trwyn yn rhedeg, bydd ganddynt grampiau yn eu bol, bydd tonnau o deimlo'n chwydlyd, byddant yn crynu, bydd yr esgyrn a'r cyhyrau'n boenus iawn, a bydd y person yn ofnus tu hwnt ac yn methu â chysgu. Bydd y croen yn gwelwi ac yn oer a chwyslyd, a bydd croen gwydd dros y corff ('cold turkey') a bydd y corff yn cael pyliau a fydd yn gwneud i'r coesau fod yn aflonydd. Gellir dioddef ffitiau, bod yn ddryslyd gyda rhithdybiau a rhithweledigaethau. Bydd yr effeithiau hyn ar eu gwaethaf ar ôl tua dau neu dri diwrnod, ac yn gwella ar ôl tua pythefnos.

Beth a ddywed y gyfraith?

Mae heroin yn gyffur dosbarth 'A'. Gweler Cyffuriau - Y Gyfraith am fwy o wybodaeth.

Other drugs:

Atgynhyrchwyd yr wybodaeth hyn gyda chaniatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom