Ketamin
Enwau poblogaidd:
K, special K, super K.
Sut olwg sydd arno?
Gellir ei sniffian, ei chwistrellu neu ei lyncu ar ffurf tabled.
Yr effeithiau 'da':
Bydd yr effeithiau'n amrywio o berson i berson o ganlyniad i natur seicadelig y cyffur, fodd bynnag dim ond tua awr y bydd effeithiau'r cyffur yn para. Mae rhai pobl wedi dweud eu bod wedi cael profiadau lle maent wedi gadael eu cyrff, tra bod eraill yn credu eu bod wedi cysylltu â chreaduriaid o fydoedd eraill.
Yr effeithiau 'drwg':
Mae'r ffaith ei fod yn cael ei ddefnyddio fel tawelyn ceffylau yn arwyddocaol. Ar ôl y rhuthr gwreiddiol, gall y corff fynd i gysgu neu gael ei barlysu, gellir chwydu, a gall cydweithrediad y corff ddiflanu gan wneud y tasgau symlaf yn amhosibl. Gallwch deimlo'n ysgafn a theimlo fel pe baech wedi gadael eich corff. Gallwch hefyd ddioddef rhithwelediadau brawychus, fel gweld eich aelodau'n tyfu neu'n crebachu, a theimlo eich bod ar fin marw.
Beth a ddywed y gyfraith?
Nid yw Ketamin yn sylwedd a reolir o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau, felly nid yw'n anghyfreithlon meddu arno. Rheolir gwerthiat a cyflenwad y cyffur, felly mae'n anghyfreithlon ei roi neu ei werthu. Gweler Cyffuriau - Y Gyfraith am fwy o wybodaeth.
Other drugs:
- alcohol
- amffetaminau
- amyl nitrad
- cannabis
- cocên
- crack
- ecstasi
- GHB (gamma-hydroxybutyrate)
- heroin
- hydoddion
- ketamin
- khat
- LSD
- madarch
- rohypnol
- steroidau anabolig
- tybaco
- tawelynnau
Atgynhyrchwyd yr wybodaeth hyn gyda chaniatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom

