Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Khat

Nicknames:

Chat, Cathinone, Cathine, Quat, Qat, Ghat, Quaadka

Sut olwg sydd arno?

Mae Khat yn blanhigyn sydd â dail gwyrdd y mae pobl wedi'i ddefnyddio ar gyfer ei nodweddion symbylol ers canrifoedd mewn rhannau o Affrica ac Arabia. Caiff ei gnoi'n bwlp (gyda sesiwn gnoi'n para hyd at 3-5 awr) a'i boeri, bydd y sesiwn gnoi fel arfer yn weithgaredd cymdeithasol bwysig, yn debyg i gaffîn neu alcohol yn Ewrop. Gellir paratoi Khat ar ffurf te, ac mae rhai fersiynau sych o'r cyffur ar gael yn y DU.

Yr effeithiau 'da':

Gan bod y planhigyn yn cynnwys nodweddion symbylol naturiol, dywedir bod yr effeithiau'n debyg i rai caffîn neu amffetamin. Bydd defnyddwyr yn teimlo'n effro ac wedi ymlacio, a byddant yn fwy siaradus, er y caiff eu chwant am fwyd ei leihau.

Yr effeithiau 'drwg':

Ni fydd y rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio Khat yn dioddef unrhyw broblemau difrifol, fodd bynnag, gellir mynd yn ddibynnol yn seicolegol ar y cyffur. Gall lleiafrif o bobl a fydd yn ei ddefnyddio'n rheolaidd - bron bob dydd o'r wythnos - deimlo'n bryderus ac yn fyr eu tymer, yn flinedig ac yn isel ar ôl defnyddio'r cyffur, ac fe allen nhw ddioddef problemau seicolegol. Gall cnoi Khat wneud i'ch ceg frifo ac fe all hynny beri i'r defnyddiwr fod yn fwy tebygol o ddal heintiau. Mae rhywfaint o dystiolaeth sy'n awgrymu y gall cnoi Khat yn ormodol gynyddu'r perygl o ddioddef clefyd y galon a chanser y geg.

Beth a ddywed y gyfraith?

Yn y DU, nid yw'r planhigyn Khat wedi'i ddosbarthu'n sylwedd a reolir o dan y Ddeddf Gyffuriau, felly ni bydd cosb os byddwch yn ei ddefnyddio neu'n ei werthu. Fodd bynnag, mae'n gyffur a reolir mewn gwledydd eraill gan gynnwys Gweriniaeth Iwerddon, Canada, UDA, Norwy a Sweden, felly byddai trigolion y DU a fyddai'n teithio i'r gwledydd hyn gyda Khat yn torri'r gyfraith. Gweler Cyffuriau - Y Gyfraith am fwy o wybodaeth.

Other drugs: