LSD
Enwau poblogaidd:
Acid, dots, flash, liquid acid, microdot, smilies, tabs, trips, a llawer o enwau eraill, bydd rhai o'r enwau'n disgrifio'r lluniau ar geir ar y sgwariau.
Sut olwg sydd arno?
Fel arfer, caiff LSD ei werthu ar bapur blotio mewn sgwariau bychain, fydd â llawer o wahanol luniau arnynt. Gellir hefyd ei droi'n dabledi bychain iawn a elwir yn 'micro-dots'.
Yr effeithiau 'da':
Bydd eich meddwl yn mynd ar 'drip', byddwch yn gweld lliwiau llachar, golygfeydd a synau od sydd wedi'u haflunio, a rhithwelediadau anarferol.
Yr effeithiau 'drwg':
Mae LSD yn gryf ac yn anodd ei ddarogan, am y bydd yr effaith yn dibynnu ar gyflwr eich meddwl. Os byddwch mewn man dieithr neu'n bry derus, bydd yn bosibl i chi ddioddef 'trip' gwael, gan achosi cyflwr seicotig gyda rhithdybiau paranoid a all bara am fisoedd. Bydd 'trip' gwael yn peri i chi fod yn isel eich ysbryd, yn benysgafn ac yn ddryslyd. Gan na fyddwch yn gallu rheoli'ch meddwl na'ch corff yn ystod unrhyw 'drip', p'un a yw'n un da neu'n un gwael, gall fod yn beryglus iawn.
Beth a ddywed y gyfraith?
Mae LSD yn gyffur dosbarth 'A'. Gweler Cyffuriau - Y Gyfraith am fwy o wybodaeth.
Other drugs:
- alcohol
- amffetaminau
- amyl nitrad
- cannabis
- cocên
- crack
- ecstasi
- GHB (gamma-hydroxybutyrate)
- heroin
- hydoddion
- ketamin
- khat
- LSD
- madarch
- rohypnol
- steroidau anabolig
- tybaco
- tawelynnau
Atgynhyrchwyd yr wybodaeth hyn gyda chaniatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom

