Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

cannabis leaves

Cannabis

Enwau poblogaidd:

Blow, dope, draw, ganja, gear,grass, hash, herb, marijuana, pot, puff, skunk, spliff, wacky baccy, weed ac ati.

Sut olwg sydd arno?

Daw o flodau neu ddail sych y planhigyn cannabis (neu marijuana). Hash yw'r ffurf mwyaf cyffredin, a ddaw ar ffurf blociau bach brown. Fel arfer, caiff ei ysmygu mewn sigaréts a wneir â llaw o'r enw joint, reefer neu spliff neu mewn pibell, a elwir gan amlaf yn 'bong'. Gellir hefyd ei gymryd mewn bwyd a diod.

Yr effeithiau 'da':

Mae cannabis yn dawelydd gwan, sy'n golygu y bydd yn gwneud i chi ymlacio, fod yn siaradus ac yn gyfeillgar. Bydd hyn yn para rhwng awr a dwy awr.

Yr effeithiau 'drwg':

Fe allwch gael pendro, teimlo'n chwydlyd, neu'n benysgafn, ac fe allwch golli'r gallu i ganolbwyntio a'ch cof tymor byr. Gall sychu'ch corff, gan wneud i'ch gwddf, eich tafod a'ch gwefusau sychu, a'ch gwneud yn llwglyd ac yn flinedig. Gall cannabis hefyd ostwng lefelau sberm dynion a gall y sberm a gynhyrchir fod yn annormal. Gall sypiau o gannabis cryf achosi paranoia, rhithweledigaethau ac iselder ysbryd hir dymor.

Beth a ddywed y gyfraith?

Cyffur Dosbarth C yw canabis. (Gweler Cyffuriau - Y Gyfraith am fwy o wybodaeth).

Other drugs:

Atgynhyrchwyd yr wybodaeth hyn gyda chaniatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom