Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

madarch

Madarch

Enwau poblogaidd:

Liberties, shrooms, magics, mushies, magic mushrooms, ac ati.

Sut olwg sydd arno?

Mae dau fath o fadarch ar gael yn y DU. Mae gan un math gap coch llachar gyda brychni gwyn, ac mae'r llall yn fadarchen fach frown. Gellir bwyta madarch hud yn amrwd, wedi'u sychu, wedi'u coginio mewn bwyd neu wedi'u troi'n de, neu gellir eu rhewi i'w ddefnyddio'n ddiweddarach.

Yr effeithiau 'da':

Mae'r effaith yn debyg i LSD, ond fel arfer, bydd y 'trip' yn fyrrach ac yn wannach (yn para tua pedair awr).

Yr effeithiau 'drwg':

Gall achosi poenau yn eich stumog, chwydu a dolur rhydd. Gall bwyta'r math anghywir o fadarch achosi salwch difrifol a hyd yn oed eich gwenwyno'n angheuol. Gall madarch gymhlethu problemau iechyd meddwl.

Beth a ddywed y gyfraith?

Mae madarch hud yn gyffur dosbarth 'A'. Gweler Cyffuriau - Y Gyfraith am fwy o wybodaeth.

Other drugs:

Atgynhyrchwyd yr wybodaeth hyn gyda chaniatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom