Amyl nitrad
Enwau poblogaidd:
Poppers, rush, amyl, liquid gold, high-tech, rave, ram, stage, stud.
Sut olwg sydd arno?
Hylif clir melynaidd, a geir gan amlaf mewn potel sydd tua'r un maint â'ch bawd. Mae poppers ffres yn ogleuo'n felys, fel ffrwythau, ond mae hen gemegion yn ogleuo fel hen sannau. Caiff poppers eu sniffiian yn syth o'r botel/tiwb, naill ai trwy'r trwyn neu drwy'r geg, ac ni ddylid byth ei lyncu na'i chwistrellu.
Yr effeithiau 'da':
Mae effeithiau anadlu poppers yn digwydd ar unwaith, ond yn para ychydig iawn o amser (tua 2-5 munud wedi i chi ei sniffian). Efallai y cewch ffrwydriad sydyn o egni, a theimlad o rhuthr oherwydd bod y galon yn curo'n gynt. Fe allwch deimlo ychydig yn benysgafn ar ôl y rhuthr gwreiddiol oherwydd bydd eich pwysedd gwaed yn disgyn. Gallwch hefyd gael eich cyffroi yn rhywiol.
Yr effeithiau 'drwg':
Gall y ffaith fod eich pwysedd gwaed yn disgyn beri penysgafnder, pendro neu i chi lewygu. Gall hefyd beri i'ch wyneb fynd yn goch, dychlamiad, cur pen ac i'ch ceg a'ch trwyn losgi. Er y credir iddo gryfhau orgasmau, gall effeithiau'r cyffur ei gwneud yn anos i gadw codiad. Gall hefyd losgi'r croen os caiff ei sarnu, a dylai defnyddwyr sicrhau na fydd y poppers yn mynd i'w llygaid.
Beth a ddywed y gyfraith?
Mae amyl nitrad yn feddyginiaeth a geir drwy bresgripsiwn yn unig. Nid yw bod yn berchen arno'n anghyfreithlon, ond gall ei gyflenwi fod yn drosedd. Gweler Cyffuriau - Y Gyfraith am fwy o wybodaeth.
Other drugs:
- alcohol
- amffetaminau
- amyl nitrad
- cannabis
- cocên
- crack
- ecstasi
- GHB (gamma-hydroxybutyrate)
- heroin
- hydoddion
- ketamin
- khat
- LSD
- madarch
- rohypnol
- steroidau anabolig
- tybaco
- tawelynnau
Atgynhyrchwyd yr wybodaeth hyn gyda chaniatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom

