Rohypnol
Enwau poblogaidd:
Rophies, ropies, ruffies, roche, R-2, Mexican Valium, rib a rope.
Beth yw ei bwrpas?
Mae Rohypnol yn gyffur cyfreithlon a ddefnyddir wrth drin anhwylderau cysgu yn y tymor byr. Daeth yn gyffur treisio am nad oes ganddo liw, oglau na blas - sy'n ddelfrydol ar gyfer sbeicio diodydd heb i neb sylweddoli!! O ganlyniad i'r broblem hon, diwygiodd y cwmni sy'n gweithgynhyrchu'r cyffur ei fformiwla ym mis Ionawr 1998 i'w wneud yn haws ei ganfod. Erbyn hyn, mae'n cynnwys lliw glas sy'n ymddangos pan gaiff ei ychwanegu at unrhyw ddiod, ac mae'n toddi'n arafach.
O ble y daw?
Ni ellid ond ei gael yn y DU drwy bresgripsiwn preifat.
Sut defnyddir y cyffur?
Gwyddys bod 'refwyr' yn cymryd y cyffur am ei fod yn gwneud i chi ymlacio a theimlo'n ewfforig. Bydd yr effeithiau'n para tuag wyth awr. Yn ôl Ravesafe, gwasanaeth gwybodaeth am gyffuriau, fe'i defnyddir i leddfu'r broses o 'ddod i lawr' oddi ar gyffuriau ar ôl cymryd crac neu gocâin. Fodd bynnag, camddefnyddio'r cyffur mewn achosion treisio yn sgîl cyffuriau sydd wedi arwain at enw drwg y cyffur, gan y defnyddir y cyffur i drechu dioddefwyr, er mwyn eu cam-drin yn rhywiol. Gweler Trais Ac Ymosodiad am fwy o wybodaeth.
Beth yw effeithiau'r cyffur?
Pan gaiff ei gyfuno ag alcohol, gall Rohypnol beri dawelyddu neu ewfforia ymhen tua 20 i 30 munud. Gall hefyd beri i'r person fethu â chofio.
A fyddaf yn gallu dweud bod fy niod wedi cael ei sbeicio?
Oni bai eich bod wedi gweld y cyffur yn y ddiod yn syth, ni fyddwch yn gwybod bod rhywun wedi sbeicio'ch diod. Gall amnesia ddechrau o fewn 10 munud, gyda sgil-effeithiau eraill yn dechrau yn fuan wedi hyn. Ni fydd rhywun nad ydynt yn ymwybodol eu bod wedi cymryd y cyffur yn debygol o gofio beth ddigwyddodd tra oeddynt dan ei ddylanwad. Dyma'r pryder mwyaf. Gweler Trais Ac Ymosodiad am fwy o wybodaeth.

