Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

hydoddion

Camddefnyddio Sylweddau Anweddol (VSA) - hydoddion / nwyon

Enwau poblogaidd:

"Sniffing", "snorting", "bagging", "huffing", "biffing", "doing gas", "glue sniffing", "solvent abuse", "solvent misuse", ac ati.

Beth yw hyn:

Fel arfer, pethau sy'n cael eu defnyddio yn y ty bob dydd yw'r hydoddion a'r nwyon sy'n cael eu camddefnyddio gan ddefnyddwyr - tanwydd taniwr, petrol, lliw ewinedd, hylif cywiro, diaroglydd, chwistrell i'r gwallt, teneuwyr a thynwyr paent, i enwi ond ychydig.

Sut i'w ddefnyddio:

Mae defnyddwyr yn anadlu anweddau'r hydoddyn i'r ysgyfaint, weithiau'n uniongyrchol, weithiau drwy gerpyn gwlyb, neu weithiau o fag plastig neu bapur dros y geg.

Yr effeithiau 'da':

Yn cael effaith debyg i yfed alcohol. Mae defnyddwyr yn teimlo'n benysgafn, yn colli cysylltiad â'r amgylchfyd, yn dioddef o bendro, yn giglan ac yn freuddwydiol. Weithiau mae defnyddwyr yn dioddef o afluniad gyda'u golwg a'u clyw, ac mewn rhai achosion yn gweld rhithiau. Mae'r effeithiau'n parhau am ryw 15 - 30 munud. Ar ôl anadlu hydoddion, efallai bydd defnyddwyr yn teimlo'n gysglyd ac yn dioddef o symptomau "pen mawr".

Yr effeithiau 'drwg':

MAE AROGLI SYLWEDDAU ANWEDDOL YN LLADD NIFER SYLWEDDOL O BOBL! Mae arogli sylweddau a nwyon yn gyfrifol am ladd 1 o bob 50 o bobl ifanc sy'n marw rhwng 15 a 19 oed. Mae llawer o'r sawl sy'n marw o ganlyniad i arogli hydoddion (hyd at 40%) yn gwneud hyn am y tro cyntaf. Mae'n bosibl fod eraill sy'n marw o ganlyniad i arogli hydoddion wedi bod wrthi ers amser. Ar y cyfan, mae camddefnyddio sylweddau anweddol yn gyfrifol am tua deg gwaith y nifer sy'n marw o ganlyniad i ddefnyddio ecstasi.

ANGHEUOL: Gall arogli rhai hydoddion megis aerosolau arwain at ddiffyg y galon (yn enwedig os mae'r defnyddiwr yn cymryd rhan mewn ymarfer sydyn, megis rhedeg o gwmpas).

Gall y weithred o chwistrellu tanwydd taniwr syth mewn i'r geg o'r can achosi i'r corn gwynt rewi ac felly mae'r unigolyn yn mygu.

Wrth arogli mewn lleoliad anniogel (e.e. ar lan yr afon neu wrth ochr ffordd brysur) gall rhywun farw'n ddamweiniol, neu gael ei anafu. Os bydd defnyddwyr yn arogli i'r pwynt lle maent yn anymwybodol, gallent dagu ar eu chwyd eu hunain. Mae rhai defnyddwyr yn mygu trwy ddamwain o ganlyniad i arogli tra'n gwisgo bag plastig dros eu pennau.

Ymysg sgil-effeithiau eraill camddefnyddio hydoddion neu nwyon mae: cyfog , chwydu, blacowts, blinder, anghofrwydd, diffyg canolbwyntio, colli pwysau ac iselder. Mae rhai defnyddwyr yn datblygu dibyniaeth seicolegol.

Y gyfraith:

Mae hydoddion yn eitemau cyffredin yn y cartref, felly nid yw'n anghyfreithlon eu cael yn eich meddiant. Fodd bynnag, mae yn anghyfreithlon i siopwr werthu caniau o danwydd taniwr i unrhyw un dan 18 oed, ac mae hefyd yn drosedd i siopwr werthu unrhyw sylweddau anweddol i rywun dan 18 oed os maen nhw'n credu y bydd y prynwr yn ei arogli.

Other drugs: