Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Steroidau anabolig

Steroidau anabolig

Enwau poblogaidd:

Roids, Sustanon, Deca-dirabolin

Sut olwg sydd arno?

Fe ddaw ar ffurf tabledi neu hylif. Caiff y tabledi eu llyncu a'r hylif ei chwistrellu i'r cyhyrau.

Yr effeithiau 'da':

Bydd pobl fel athletwyr a phobl sy'n magu cyhyrau yn eu defnyddio am eu bod yn honni bod y cyffur yn eu gwneud yn fwy ffyrnig er mwyn iddynt allu ymarfer yn galetach ac er mwyn gwella'n gynt os cânt anaf.

Yr effeithiau 'drwg':

Mae mwy o beryg i chi ddioddef niwed i'r galon, i'r iau ac i'r arennau. Gall beri i fronnau dynion dyfu ac iddynt ddioddef acne, a gall blew wynebau merched dyfu, gall eu lleisiau ddyfnhau a'u bronnau leihau.

Beth a ddywed y gyfraith?

Maent ar gael drwy bresgripsiwn. Mae eu cyflenwi'n anghyfreithlon ac mae cosbau Dosbarth C yn berthnasol. Gweler Cyffuriau - Y Gyfraith am fwy o wybodaeth.

Other drugs:

Atgynhyrchwyd yr wybodaeth hyn gyda chaniatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom