Tybaco
Nicknames:
"fags", "cigs", "ciggies", "cancer sticks", "coffin nails", "smokes", "rollies", ac ati.
Beth yw hyn:
Dail y planhigyn tybaco wedi'u sychu a'u malu.
Sut i'w ddefnyddio:
Fel arfer mae'n cael ei werthu fel sigarennau neu sigarau, ond mae'n cael ei werthu'n rhydd i'w ysmygu mewn cetyn neu mewn sigarennau mae rhywun yn rholio ei hunan. Mae tybaco'n cynnwys cyffur o'r enw nicotin, ac mae'n hawdd iawn mynd yn gaeth iddo.
Yr effeithiau 'da':
Symbylydd cryf, sy'n gweithio'n gyflym yw nicotin, ac yn fuan iawn mae rhywun yn gaeth iddo; fe'i ddefnyddir i leihau straen a phryder. Mae'n cyflymu cyfradd curiad y galon ac yn cynyddu pwysedd gwaed.
Yr effeithiau 'drwg':
Yn fuan iawn mae rhywun yn mynd yn gaeth iddo. Gall pobl sy'n ei ddefnyddio am y tro cyntaf deimlo'n sâl ac yn benysgafn. Trwy ysmygu'n gyson dros gyfnod hir, mae unigolyn yn fwy tebygol o ddioddef o nifer o glefydau difrifol megis canser yr ysgyfaint, mathau eraill o ganser, tolchenni, clefyd y galon, broncitis, emffysema, cylchrediad gwael ac wlserau. Mae pobl sy'n ddibynnol ar dybaco yn aml yn teimlo'n anesmwyth, yn groendenau ac yn bryderus os maent yn ceisio rhoi'r gorau i ysmygu. Mae anadlu mwg tybaco pobl eraill ("ysmygu goddefol") hefyd yn niweidiol i'r iechyd.
Y gyfraith:
Mae'n anghyfreithlon gwerthu nwyddau tybaco i blant dan 16 oed.
Am fwy o wybodaeth, cer at yr adran ar ysmygu.

