Tawelynnau
Enwau poblogaidd:
Diazepam, Tamazepam, Nitrazepam, tranqs, trannies
Sut olwg sydd arno?
Caiff tawelynnau eu rhagnodi gan feddyg i drin iselder, pryder, straen a phroblemau cysgu. Fel arfer, fe'u llyncir ond weithiau cânt eu chwistrellu.
Beth yw'r effeithiau 'da'?
Gallant leihau pryder os byddwch yn cymryd dognau bychain.
Beth yw'r effeithiau 'drwg'?
Gallent wneud i chi deimlo'n gysglyd os byddwch yn cymryd llawer ohonynt. Gallent beri i chi fethu â barnu sefyllfaoedd ac felly byddwch yn fwy tebygol o gael damweiniau. Gall eich corff fynd yn oddefgar i'r cyffur a bydd hyn yn arwain at ddibyniaeth corfforol. Gall rhoi'r gorau i gymryd y cyffur fod yn amhleserus iawn ac weithiau, gall eich lladd. Mae chwistrellu tawelynnau'n beryglus iawn a gall beri i chi gymryd gorddos.
The law:
Mae'n gyffur dosbarth 'C' a dylai fod ar gael drwy presgripsiwn yn unig. Mae'n anghyfreithlon meddu arnynt heb bresgripsiwn. Gweler Cyffuriau - Y Gyfraith am fwy o wybodaeth.
Other drugs:
- alcohol
- amffetaminau
- amyl nitrad
- cannabis
- cocên
- crack
- ecstasi
- GHB (gamma-hydroxybutyrate)
- heroin
- hydoddion
- ketamin
- khat
- LSD
- madarch
- rohypnol
- steroidau anabolig
- tybaco
- tawelynnau
Atgynhyrchwyd yr wybodaeth hyn gyda chaniatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom

