Cyffuriau a'r gyfraith
Y brif ddeddfwriaeth ym Mhrydain mewn perthynas â chyffuriau yw'r Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971.
Mae'r Ddeddf yn gwahanu "sylweddau rheoledig" (cyffuriau) yn dri dosbarth - A, B ac C. Yn gyffredinol, mae'r Dosbarthiadau hyn yn adlewyrchu'r risgiau a'r niwed sydd ynghlwm wrth gamddefnyddio'r cyffur dan sylw - cyffuriau Dosbarth A yw'r rhai sy'n cael eu hystyried yn fwyaf peryglus.
Mae'r Ddeddf hefyd yn rhoi manylion ynghylch cosbau mewn perthynas â throseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn nosbarthiadau A, B ac C. Mae'r dedfrydau uchaf posibl yn amrywio yn ôl natur y drosedd, a gall y ddedfryd fod yn llai am fod â chyffuriau yn eich meddiant o'i gymharu â chynhyrchu neu gyflenwi cyffuriau, neu am ganiatáu i eiddo sy'n gartref i chi neu o dan eich rheolaeth gael ei ddefnyddio i gynhyrchu neu gyflenwi cyffuriau.
Cofiwch, fod hyd yn oed rhoi cyffuriau i ffrind yn cael ei ystyried yn 'cyflenwi' o safbwynt y gyfraith, hyd yn oed os nad yw arian yn newid dwylo.
| Cyffuriau | Meddiant (cosbau uchaf posibl) | Cyflenwi neu'r bwriad i gyflenwi (cosbau uchaf posibl) |
|---|---|---|
| Dosbarth A cocên, crac, ecstasi, heroin, LSD, madarch hud, sbîd (wedi'i baratoi i'w chwistrellu) |
7 mlynedd o garchar neu ddirwy neu'r ddau | Carchar am oes neu ddirwy, neu'r ddau |
| Dosbarth B amffetaminau, barbitiwradau |
5 mlynedd o garchar, neu ddirwy, neu'r ddau | 14 mlynedd o garchar neu ddirwy, neu'r ddau |
| Dosbarth C canabis, steroidau anabolig, GHB, tawelyddion megis Valium, Temazepam |
2 flynedd o garchar neu ddirwy neu'r ddau | 14 mlynedd o garchar neu ddirwy neu'r ddau |
Cofiwch fod y gosb am gael cyffuriau yn eich meddiant a'u cyflenwi mewn gwledydd eraill yn gallu bod yn llym iawn, a gall amodau'r carchar fod yn galed iawn.
Mewn rhai amgylchiadau, gall cael eich dal tramor gyda chyffuriau yn eich meddiant olygu:
- y gosb eithaf - mewn nifer o wledydd gan gynnwys Thailand, Malaysia, Indonesia, Tsieina, a Singapore
- carchar am oes - mewn rhai gwledydd gan gynnwys Cyprus a Gwlad Groeg
- hyd at 20 mlynedd yn y carchar - mewn nifer o wledydd, gan gynnwys Tiwnisia a Thwrci.
Gweler Cyffuriau Tramor am fwy o wybodaeth.

