Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

geraint

Pryderus?

Efallai eich bod yn bryderus fod aelod arall o'r teulu neu ffrind yn defnyddio cyffuriau. Yn anffodus, does dim rhestr amlwg o arwyddion arwyddocaol sy'n dangos fod rhywun yn defnyddio cyffuriau. Er nad yw hyn yn dystiolaeth bendant fod rhywun yn cymryd cyffuriau, dylech wylio allan am y canlynol:

  • ychydig bach o dabledi, capsiwlau, powdrau neu hylifau anarferol
  • sticeri neu drosluniau bach
  • llwyau neu ffoil wedi llosgi/afliwiedig
  • chwistrellau neu nodwyddau
  • papurau sigarennau, gweddillion sigarennau wedi'u gwneud o gerdyn, carpion sigarennau, tanwyr
  • pibau
  • tuniau nwy bwtan
  • amplapiau papur bach neu ddarnau plastig wedi'u plygu
  • poteli bach

Gweler y Ffeil o ffaith ar Gyffuriau am fwy o wybodaeth ynghylch sylweddau penodol.

Os ydych yn pryderu ynghylch aelod o'r teulu neu ffrind, cliciwch ar gwybodaeth cysylltiadau am fanylion asiantaethau fydd yn gallu helpu efallai.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »