Ysmygu
Mae hanner y bobl sy'n ysmygu'n rheolaidd yn marw o ganlyniad i glefyd sy'n gysylltiedig ag ysmygu.
Mae un o bob pump o bobl ym Mhrydain yn marw o ysmygu, ac mae clefydau sy'n cael eu hachosi gan ysmygu yn achosi i nifer sylweddol o bobl farw'n gynnar ym Mhrydain.
Y cyfartaledd o bobl sy'n marw oherwydd clefydau sy'n gysylltiedig ag ysmygu ym Mhrydain:
- 14 pobl yr awr
- 330 pobl y dydd
- 10,000 pobl y mis
- 120,000 pobl y flwyddyn!
Yn y DU, mae ysmygu yn lladd tua 6 gwaith y nifer o bobl sy'n marw mewn damweiniau ffordd, damweiniau eraill, gwenwyno a gorddosio, llofrudd a dynladdiad, hunanladdiad & chlefyd HIV I GYD EFO'I GILYDD!
Os hoffech gael gwybodaeth ar sut byddech chi'n elwa o ganlyniad i roi'r gorau i ysmygu, ewch at yr adran pam ddylech chi roi'r gorau iddo?. A, pham na chymerwch gip ar y rysáit sigarennau i weld yn union beth sydd mewn sigarét.
Mae arolygon yn dangos y byddai tua 70% o'r bobl sy'n ysmygu ar hyn o bryd yn hoffi rhoi'r gorau i ysmygu.
Neu, os ydych eisoes wedi penderfynu, a hoffech roi'r gorau i ysmygu, ewch at yr adran sut gallwch chi roi'r gorau iddo i weld beth ddylech ei wneud nesaf. Cofiwch - dydych chi ddim ar eich pen eich hunan. Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, mae 10 miliwn o bobl ym Mhrydain wedi rhoi'r gorau i ysmygu, ac wedi dal ati. Mae hynny dros 1,000 o bobl bob dydd!
Efallai eich bod dal yn bryderus ynghylch rhoi'r gorau i ysmygu. Os felly, pam nad edrychwch ar bryderon ynghylch rhoi'r gorau iddo?
Efallai eich bod wedi ceisio rhoi'r gorau iddo o'r blaen, ond mae'r blysiau wedi'ch trechu chi. Pam nad ewch chi at yr adran therapi amnewid nicotin i weld pa nwyddau sydd ar gael i helpu chi?
Os ydych chi neu'ch partner yn disgwyl neu'n bwriadu cael babi, mae'n bwysig eich bod yn edrych ar yr adran ysmygu a disgwyl.

