Pryderon ynghylch rhoi'r gorau iddo
Er mwyn bod yn barod i roi'r gorau i ysmygu go iawn, bydd angen mynd i'r afael ag unrhyw broblemau nes esgusodion. Edrychwch ar y rhestr bryderon cyffredin canlynol:
"Dwi ddim eisiau ennill pwysau"
Mae rhai pobl yn ennill pwysau ar ôl rhoi'r gorau i ysmygu, ond nid yw llawer o bobl yn gwneud hynny. Ar ôl i chi roi'r gorau iddo, bydd gennych fwy o egni, a byddwch yn teimlo'n fwy ffit ac felly dylai fod yn weddol hawdd colli ychydig o bwysau, os oes angen. Cofiwch y gallwch fwyta'n iach a gwneud ymarfer corff rheolaidd am weddill eich bywyd.
Yn y cyfamser, ceisiwch beidio â bwyta mwy nag y byddech fel arfer, a dylech osgoi bwydydd sydd â llawer o galorïau, y byddech fel arfer yn eu hosgoi.
"Mae ysmygu'n helpu fi ymdopi â straen"
A dweud y gwir, symbylydd yw nicotin. Nid yw'n gwneud i chi ymdawelu mewn gwirionedd. Pan fydd lefelau nicotin eich corff yn gostwng, byddwch yn teimlo ar bigau drain oherwydd diddyfnu. Felly, pwrpas ysmygu yw rhoi hwb i lefel y nicotin yn eich corff. Mae hyn yn lleihau'r diddyfnu, gan wneud i chi deimlo dan lai o bwysau. Mewn gwirionedd, nid straen ond blys oedd yn achosi'r broblem. Trwy dorri'r ddibyniaeth byddwch yn teimlo dan lai o bwysau.
"Does gen i ddim grym ewyllys"
Mae grym ewyllys yn debyg i gyhyr - gellir ei feithrin. Mae grym ewyllys yn deillio o fod eisiau rhywbeth ddigon drwg, a bod yn benderfynol.
"Dwi'n poeni ynghylch symptomau diddyfnu"
Wrth roi'r gorau i ysmygu, rydych yn diddyfnu o nicotin ac o arfer grymus. Mae'n cymryd amser i glirio'r cyffur allan o'r corff yn gyfan gwbl, ac i dorri'r arfer.
Ymysg rhai o'r symptomau fydd yn effeithio arnoch efallai yw: eisiau bwyd, blinder, teimlo'n groendenau a diffyg gallu i ganolbwyntio, ond fel arfer mae'r symptomau hyn ond yn parhau am ychydig o wythnosau. Gallwch helpu'ch hunan trwy ddefnyddio therapi amnewid nicotin.
"Mae'n rhy hwyr - mae'r difrod wedi digwydd erbyn hyn fwy na thebyg"
Mae'r risg o ganlyniad i ysmygu yn cynyddu dros gyfnod, felly gorau po gynted fyddwch yn rhoi'r gorau iddo. Syth ar ôl i chi roi'r gorau iddo, mae'r risg o salwch difrifol yn dechrau lleihau.
"Byddai'n well gen i dorri nôl yn raddol"
Trwy dorri nôl, rydych yn meddwl o hyd am y sigarét nesaf. A gall gwneud y symptomau diddyfnu'n waeth. Ceisiwch roi'r gorau iddo'n gyfan gwbl ar y diwrnod cyntaf.
"Nid dyma'r amser iawn"
Mae 'na amseroedd gwael i roi'r gorau iddo - pan fyddwch o dan bwysau penodol er enghraifft. Ond hawdd iawn yw defnyddio hyn fel esgus.
Cofiwch - bydd rhoi'r gorau i ysmygu yn newid eich bywyd am byth!
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Yn seiliedig ar wybodaeth a gymerwyd, gyda chaniatâd, oddi wrth "Smoking: Giving Up For Life" a "Stopping Smoking Made Easier" a gynhyrchwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

