Sut gallwch chi roi'r gorau iddo
Cofiwch fod miliynau o bobl wedi llwyddo i roi'r gorau i ysmygu - a gallwch chi lwyddo hefyd! Yr hyn sy'n sicrhau llwyddiant yw eisiau rhoi'r gorau iddo a pharatoi cynllun.
Gwnewch restr o'ch rhesymau dros roi'r gorau iddo
Cadwch y rhestr wrth law ... 'Dwi eisiau rhoi'r gorau iddo oherwydd:
'Dwi eisiau rhoi'r gorau iddo oherwydd:
- 'Dwi eisiau gwella fy iechyd
- 'Dwi wedi cael llond bol o ddrewi o fwg
- 'Dwi ddim eisiau i'r plant ysmygu
- Mae'n wrthgymdeithasol
- 'Dwi'n poeni ynghylch cael canser
- 'Dwi ddim yn hoffi dibynnu ar bethau
- Mae gen i bethau gwell i wneud efo'r arian
Dewiswch ddyddiad i roi'r gorau iddo
A fydd y dyddiau cynnar yn haws yn ystod yr wythnos waith neu dros benwythnos? A fydd yn haws rhoi'r gorau iddo pan rydych yn brysur neu wedi ymlacio?
Y noson gynt, taflwch yr holl sigarennau, blychau llwch a thanwyr i ffwrdd. Glanhewch y ty a golchwch eich dillad - wedyn ni fydd aroglau mwg i'ch atgoffa am ysmygu.
Newidiwch eich arferion
Dibyniaeth gorfforol yw ysmygu. Mae hefyd yn arfer. Gweithiwch allan pam, ble a phryd rydych yn ysmygu.
Efallai bod rhai sefyllfaoedd penodol sy'n arwain at ysmygu - tra ar y ffôn efallai, neu wrth gael paned o goffi, neu wrth gael cinio gyda ffrindiau.
Bydd angen gwneud newidiadau bach er mwyn torri'r arfer -ceisiwch gymryd sudd oren yn lle te neu goffi, a gofynnwch i'ch ffrindiau gwrdd â chi mewn lleoliad lle ni chaniateir ysmygu. Wrth wneud hyn am gwpl o wythnosau, byddwch yn torri'r ddolen.
Bydd newidiadau bach i'ch trefn arferol fel y rhain, yn ei wneud yn haws i chi beidio â chael sigarét.
Ceisiwch ragweld problemau
Pa sefyllfaoedd fydd yn creu anhawster? Peidiwch ag aros iddynt ddigwydd. Dylech gynllunio rwan ar sut byddwch yn ymdrin â nhw.
Gofynnwch am gymorth
Dwedwch wrth eich partner, teulu a ffrindiau eich bod wedi penderfynu rhoi'r gorau i ysmygu. Gofynnwch iddyn nhw gefnogi chi. Gofynnwch iddynt beidio â chynnig sigarét i chi neu i ysmygu o'ch blaen chi. Efallai y byddan nhw hefyd yn ceisio rhoi'r gorau iddo yr un pryd â chi.
Ewch i weld eich meddyg - efallai y bydd ef/hi yn gallu helpu. Peidiwch â bod ofn gofyn, hyd yn oed os ydych wedi gofyn o'r blaen.
Un dydd ar y tro
Ar ddechrau bob diwrnod, dylech longyfarch eich hunan ar lwyddo hyd yn hyn. Dylech osod nod ar gyfer bob dydd o gyrraedd diwedd y diwrnod heb ysmygu.
Ymdopi â'r blys
Mae'r nicotin mewn sigarennau yn gaethiwus - bydd yn rhaid i'ch corff arfer hebddo; ond yn y cyfamser efallai y byddwch yn teimlo'n groendenau, yn benysgafn, ac yn cael trafferth canolbwyntio neu gysgu. Teimladau dros dro yw'r rhain yn unig - fel arfer, mae'r chwant ond yn parhau am ryw dri munud.
Rhowch gynnig ar y syniadau isod i'ch helpu trwy'r dyddiau cynnar:
- Os oes angen rhoi rhywbeth yn eich ceg, beth am gwm cnoi heb siwgr. Cadwch at bethau iach a rhai na fyddant yn achosi i chi ennill pwysau.
- Os 'dach chi angen gwneud rhywbeth â'ch dwylo, chwiliwch am rywbeth i chwarae gyda fo - pensil, arian neu fodrwy. Unrhyw beth ond sigarét.
- Ceisiwch yfed sudd neu fwyta ffrwythau pan rydych awydd cael sigarét.
- Byddwch yn gall gydag alcohol - gall effeithio ar eich grym ewyllys. Dylech ystyried osgoi alcohol dros dro, neu osgoi sefyllfaoedd fydd yn anodd i chi.
- Ceisiwch ddysgu ymlacio. Rhowch gynnig ar anadlu'n ddwfn. Mae hyd yn oed cyfnodau byr o heddwch ac ymlacio yn gallu lleihau straen.
- Meddyliwch yn bositif. Bydd yna adegau pan rydych wedi blino ac am ildio i'r temtasiwn, Cofiwch pam eich bod yn rhoi'r gorau iddo. Trwy aros yn benderfynol, bydd yr anawsterau'n diflannu.
- Cadwch yn brysur. Peidiwch â gadael i'ch meddwl segura.
Rhowch wobr i chi'ch hunan
Cadwch yr arian fyddech wedi gwario ar sigarennau, a phrynwch anrheg i chi'ch hunan ar ddiwedd yr wythnos gyntaf. 'Dach chi'n ei haeddu.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Cymerwyd peth o'r wybodaeth ar y dudalen hon, gyda chaniatâd, oddi wrth "Smoking: Giving Up For Life" a "Stopping Smoking Made Easier" a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

