Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Therapi amnewid nicotin (NRT)

Therapi amnewid nicotin (NRT)

Sut mae NRT yn gweithio?

Mae NRT yn gweithio trwy roi nicotin yn eich system heb y tar, y carbon monocsid a'r cemegau gwenwynig eraill a geir mewn mwg tybaco. Y cemegau hyn yn y tybaco sy'n gwneud y niwed mwyaf, ond y nicotin sy'n eich gwneud yn ddibynnol. Felly tra rydych yn rhoi'r gorau i ysmygu, gallwch gael nicotin o NRT - heb y risg o ganser neu glefyd y galon. Unwaith rydych yn cyrraedd y pwynt lle rydych yn gyfforddus ynghylch peidio ysmygu, gallwch hepgor yr NRT, yn raddol os bydd rhaid.

Pa nwyddau sydd ar gael?

Mae nifer o fathau gwahanol ar gael:

  • Patsys nicotin
    Maent ar gael mewn dosys gwahanol - os ydych yn ysmygu 10 y diwrnod neu fwy, dylech gychwyn ar y dos uchaf. Mae'r patsys yn hynod o gyfleus ond nid yw'n bosibl rheoli'r dos (e.e. i gael mwy o nicotin yn gynt pan fydd y blys yn gryf iawn).
  • Gwm nicotin
    Gallwch gnoi'r gwm yma pryd bynnag y cewch chi flys. Dylech gychwyn gyda'r gwm 2mg. Os rydych yn dal i gael blysiau difrifol a symptomau diddyfnu, rhowch gynnig ar y gwm cryfach. I gychwyn, gall y blas fod yn annymunol, ond dim ond am ryw wythnos mae hyn yn parhau i'r rhan fwyaf o bobl.
  • Ymanadlwr
    Teclyn plastig yw hwn sy'n dal cetris nicotin ar y pen. Rydych yn tynnu arno'n debyg i sigarét ac mae'r nicotin yn mynd mewn i'ch ceg.
  • Tabledi
    Trwy osod tabledi bach o dan eich tafod, mae tu fewn i'ch ceg yn amsugno nicotin. Peidiwch â chnoi na llyncu'r tabledi.
  • Lozennau
    Yn debyg i'r tabledi, mae'r nicotin yn cael ei amsugno trwy du fewn i'ch ceg chi.
  • Chwistrell nicotin trwynol
    Gellir amsugno nicotin trwy'r trwyn yn gyflymach na gyda'r gwm neu'r patshyn, ond mae'n cymryd amser i arfer â'r chwistrell, a gall achosi llid yn y trwyn. Ar gael ar bresgripsiwn yn unig.

Ble mae nwyddau NRT ar werth?

Mae'r rhan fwyaf ohonynt ar gael dros y cownter o'r fferyllydd, neu drwy'r doctor ar bresgripsiwn. Gofynnwch i'r fferyllydd neu'r doctor am gyngor, a dewiswch pa beth bynnag ddull sy'n siwtio chi orau.

A yw NRT yn ddiogel?

Mae NRT yn llawer mwy diogel ac yn achosi llawer llai o ddibyniaeth na sigarennau. Peidiwch â phoeni ynghylch ei orddefnyddio - nid yw'n bosibl cymryd gorddos. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn.

A yw NRT yn gweithio?

Os 'dach chi am roi'r gorau i ysmygu, gall unrhyw ddull fod o help. Os nad ydych am roi'r gorau iddo, ni fydd unrhyw ddull o help i chi. Mae NRT yn wirioneddol gweithio. Mae'r holl nwyddau wedi cael eu profi'n wyddonol, ac mae'r canlyniadau'n dangos eu bod yn dyblu'r posibilrwydd o roi'r gorau i ysmygu - mor bell â'ch bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn yn ofalus. Nid gwyrth yw NRT, ond bydd yn lleihau'r symptomau diddyfnu a'r blysiau tra rydych yn rhoi'r gorau i ysmygu. Ond cofiwch, nid bwriad NRT yw gwneud i chi deimlo'r un teimladau ag ysmygu - ei fwriad yw helpu chi i roi'r gorau iddo.

Fyddai NRT yn siwtio fi?

breathing lungs

Os ydych yn ysmygu o fewn hanner awr o godi yn y bore, byddech yn wirioneddol elwa o ddefnyddio therapi amnewid nicotin.

Fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi ofyn i'ch doctor neu'ch ymgynghorydd meddygol os:

  • oes gennych gyflwr meddygol neu bryder yn ymwneud â'ch iechyd
  • ydych wedi cael trawiad ar y galon yn ddiweddar, digwyddiad cardiofasgwlaidd arall neu os ydych yn dioddef o angina ansefydlog
  • ydych yn feichiog.

Os ydych wedi ceisio rhoi'r gorau i ysmygu o'r blaen, ond rydych wedi ildio i'r blysiau, yna mae'n ddigon posibl y gall NRT helpu chi i roi'r gorau i ysmygu.

Beth sy'n digwydd os dwi'n dechrau ysmygu eto tra rydw i'n defnyddio NRT?

Os ydych yn dechrau ysmygu eto, bydd yn rhaid i chi roi'r gorau i ddefnyddio NRT.

Oes Cymhorthion Rhoi'r Gorau i ysmygu (heb nicotin) ar gael?

Oes - mae llawer o fathau gwahanol o gymhorthion rhoi'r gorau i ysmygu (heb nicotin) ar gael. Mae rhai yn fwy effeithiol nag eraill.

  • Zyban
    Triniaeth heb nicotin yw tabledi Zyban, sydd ar gael ar bresgripsiwn yn unig. Mae Zyban yn helpu torri'r ddibyniaeth ar nicotin trwy weithio o fewn yr ymennydd i leihau'r symptomau diddyfnu a'r blysiau am sigarennau. Mae gwaith ymchwil yn awgrymu eich bod yn dyblu'r siawns o lwyddo trwy ddefnyddio Zyban.

Mae llawer o fathau eraill o Gymhorthion Rhoi'r Gorau i Ysmygu Heb Nicotin ar y farchnad, ond nid yw'r rhain wedi bod yn destun treialon clinigol, sy'n golygu nad oes digon o dystiolaeth wyddonol dda ar gael i nodi pa mor effeithiol ydynt. Maent ar gael mewn dulliau gwahanol: capsiwlau, sigarennau ffug, sigarennau llysieuol, ffilteri, cegolch, a mathau amgen o therapi megis hypnotherapi ac aciwbigo.

Mae'n bwysig gwirio fod y cynnyrch yn ddiogel ac yn effeithiol cyn i chi dreulio eich amser a'ch egni a gwario eich arian arno. Byddwch yn wyliadwrus mewn perthynas â'r rhai sy'n honni eu bod yn cael llwyddiant uchel. Does dim gwyrthiau'n bodoli.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

Cymerwyd peth o'r wybodaeth ar y dudalen hon, gyda chaniatâd, oddi wrth "Smoking: Giving Up For Life" a gynhyrchwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru