Ysmygu a disgwyl
Tad y babi
Efallai eich bod yn credu nad oes rheswm i chi roi'r gorau i ysmygu, oherwydd nid chi sy'n feichiog. Os felly, byddech yn anghywir. Cyfrifoldeb ar y cyd rhyngoch chi a'ch partner yw cael babi. Mae menywod sy'n ysmygu'n oddefol tra maent yn disgwyl yn agored i gymhlethdodau. Mae ysmygu goddefol yn beryglus oherwydd mae'r nwyon a chemegau peryglus yn cael eu trosglwyddo i'ch partner ac i'r babi yn y groth.
Os byddwch yn parhau i ysmygu ar ôl geni'r plentyn, bydd eich mwg ail law yn beryglus iddo fo/iddi hi hefyd.
Beth sydd o'i le ar fwg ail law?
Mae mwg tybaco yn cynnwys nwyon gwenwynig, tar a miloedd o gemegau gwenwynig. Mae'r gwenwynau hyn yn cael eu trosglwyddo i gyrff plant sy'n byw mewn awyrgylch fyglyd. Mae plant yn fwy sensitif i fwg nag oedolion, oherwydd mae eu cyrff yn ifanc ac yn dal i ddatblygu.
Beth gallaf ei wneud i helpu?
Os ydych yn ysmygu, dyma'r amser orau i roi'r gorau iddi. Byddwch i gyd ar eich ennill. Bydd gennych fwy o arian, llai o amser i ffwrdd o'r gwaith oherwydd salwch, byddwch yn teimlo'n fwy ffit a byddwch yn iachach ar y cyfan. Os mae'ch partner yn ysmygu, gallwch drio ei pherswadio hi i roi'r gorau iddo hefyd. Os na allwch wneud hyn, gallwch helpu trwy beidio â chynnig sigarét i'ch partner neu ysmygu yn ei hymyl hi. Mae diogelu babis rhag effeithiau mwg tybaco tra maent dal yn y groth, ac yn ystod eu plentyndod, yn rhoi dechrau iachach iddynt.
Sut bydd mwg ail law yn effeithio ar y babi ar ôl ei [g]eni?
Mae babis a phlant sydd mewn awyrgylch fyglyd:
- Ddwywaith mor debyg i gael asthma a haint y frest
- Yn fwy tebygol o fod angen gofal mewn ysbyty yn ystod eu blwyddyn gyntaf
- Yn absennol o'r ysgol oherwydd salwch yn amlach
- Yn cael peswch, annwyd a gwichian yn amlach
Mae ymchwil meddygol yn dangos:
- Bod yna fwy o risg o farwolaeth yn y crud na phlant pobl nad ydynt yn ysmygu
- Bod yna gynnydd yn y risg o gael llid yr ymennydd
- Bod mwy o bosibilrwydd o gael "gormod o gwyr yn y glust " sy'n gallu golygu fod y plentyn yn rhannol fyddar
Beth gallaf ei wneud i ddiogelu babis a phlant?
Y peth gorau yw cadw'r plant draw o sigarennau o bob math a llefydd myglyd - dylid sicrhau fod eu mannau chwarae, cysgu a bwyta yn hollol ddi-fwg.
Beth os nad yw hynny'n bosibl trwy'r amser?
Dylech geisio ysmygu i ffwrdd o'r plant. Os mae'n anodd mynd tu allan i ysmygu, ewch at ffenestr sy'n agored neu at wyntyll echdynnu.
Byddwch yn ofalus ynghylch ffenestri a drysau agored.
Awgrymiadau
- Dylech ysmygu allan yn yr awyr iach pa bryd bynnag mae'n bosibl
- Os ydych tu fewn, dylech ond ysmygu mewn un lle, yn bell i ffwrdd o'r plant.
- Dylech sicrhau fod ystafelloedd myglyd yn cael digonedd o awyr iach.
- Pan fyddwch chi allan gyda'r teulu, chwiliwch am fannau lle ni chaniateir ysmygu.
Sut gallaf annog fy mhlant i beidio ag ysmygu?
Mae gwaith ymchwil yn dangos fod plant sy'n byw gyda rhieni sy'n ysmygu yn llawer mwy tebygol o gychwyn ysmygu eu hunain. Arfer anodd iawn ei dorri yw ysmygu, felly'r peth gorau yw annog eich plant i beidio â dechrau ysmygu o gwbl.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Yn seiliedig ar wybodaeth a gymerwyd (gyda chaniatâd) oddi wrth "S is for Smoking & Pregnancy" a "P is for Protecting Babies & Children From Secondhand Smoke" a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

