Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Ysmygu a disgwyl

Mam y plentyn

Beth sydd o'i le ar ysmygu?

Mae cyswllt rhwng ysmygu tra rydych yn disgwyl â'r canlynol:

Iechyd gwael y fam

  • Erthyliad naturiol
  • Gwaedu
  • Cyfog

Iechyd gwael y babi

  • Graddfa tyfiant araf y ffetus
  • Genedigaeth gynamserol
  • Geni'n farw
  • Pwysau isel ar adeg y geni
  • Marwolaeth yn y crud
  • Problemau anadlu a gwichian yn ystod chwe mis cyntaf bywyd y babi

Os ydych yn rhoi'r gorau i ysmygu tra rydych yn disgwyl, byddwch ar eich ennill oherwydd:

  • Llai o salwch bore
  • Llai o gymhlethdodau
  • Babi mwy bodlon ar ôl y geni.

Sut mae ysmygu yn effeithio ar y babi yn y groth?

Wrth anadlu mwg, mae dros 4000 o gemegau, tar, a charbon monocsid, sy'n nwy gwenwynig, yn mynd mewn i'ch corff. Mae carbon monocsid yn mynd i'ch gwaed ac yn lleihau faint o ocsigen sy'n mynd i'ch babi. Mae ocsigen yn helpu babi i dyfu. Gall fabi cael ei eni'n llai ac yn wannach os nad yw'n cael digon o ocsigen.

Rwyf eisoes yn disgwyl - a yw'r difrod wedi digwydd eisoes?

Mae ysmygu yn gwneud niwed yr holl amser mae rhywun yn disgwyl. Y newyddion da yw hyn - unwaith rydych yn rhoi'r gorau i ysmygu, bydd eich babi'n elwa ar unwaith. Pan nad oes mwg yn eich ysgyfaint chi, mae'r carbon monocsid a'r cemegau yn gadael eich corff ac mae lefelau ocsigen eich corff yn mynd yn ôl i'r lefelau normal.

Beth os mae fy mhartner, ffrindiau neu deulu'n ysmygu?

Os oes rhywun yn ysmygu yn agos atoch chi, byddwch yn ysmygu'n oddefol. Mae ysmygu goddefol yn beryglus oherwydd mae'r nwyon a chemegau niweidiol yn effeithio arnoch chi a'r babi. Ar ôl eu geni, mae babis sy'n byw mewn awyrgylch fyglyd yn ysmygu'n goddefol, ac maent yn fwyaf tebygol o farw yn y crud.

Dechreuais ysmygu eto ar ôl bod yn feichiog y tro diwethaf, a 'dwi am roi'r gorau iddo go iawn y tro 'ma"

Os oeddech wedi rhoi'r gorau i ysmygu tra roeddech yn disgwyl, rydych eisoes wedi profi i chi'ch hunan eich bod chi'n gallu llwyddo. Cofiwch sut roeddech yn teimlo pan nad oeddech yn ysmygu. Rydych yn gwybod eich bod yn gallu rhoi'r gorau iddo, a hynny go iawn y tro 'ma. Os ydych yn cael eich temtio i gychwyn eto, atgoffwch eich hunan am y rheswm dros roi'r gorau iddo.

Gallaf ddefnyddio Therapi Amnewid Nicotin (NRT) tra 'dwi'n disgwyl?

Os ydych wedi darganfod eich bod yn methu rhoi'r gorau i ysmygu tra rydych yn disgwyl, efallai eich bod yn meddwl y byddai NRT o fudd, os bydd eich doctor yn cytuno. Mae'n bwysig pwyso a mesur y risgiau sydd ynghlwm wrth barhau i ysmygu, o'ch safbwynt chi a safbwynt y babi, a'r budd o roi'r gorau i ddefnyddio NRT. Mae cymryd cwrs byr o NRT yn fwy diogel nag ysmygu, oherwydd yn wahanol i sigarennau nid yw NRT yn cynnwys tar, carbon monocsid, gwenwynau, nac yn achosi canser.

Os ydych wedi ceisio rhoi'r gorau iddo o'r blaen, ac wedi darganfod fod y "blysiau" wedi golygu ei bod yn anodd peidio ag ysmygu, dylech drafod hanes eich arfer ysmygu, y beichiogrwydd a defnyddio NRT gyda'r doctor.

Gall fy mhartner a'm ffrindiau fod o gymorth?

Gallent - gall eich partner, eich teulu a'ch ffrindiau i gyd fod o gymorth. Yn ddelfrydol, gallen nhw eich annog i roi'r gorau iddo. Os nad ydynt yn llwyddo, gallen nhw helpu trwy beidio â chynnig sigarét i chi neu drwy beidio ag ysmygu yn eich ymyl chi.

Beth gallaf ei wneud i helpu?

Trwy ddiogelu babis o fwg tybaco cyn eu geni, ac yn ystod eu plentyndod, gallwch roi cychwyn iachach i'w bywydau nhw. Os ydych chi neu'ch partner yn ysmygu, ceisiwch ddefnyddio'r cyfnod hwn i roi'r gorau iddo. Byddwch i gyd ar eich ennill. Bydd gennych fwy o arian, llai o amser i ffwrdd o'r gwaith yn sâl, ac yn teimlo'n fwy ffit yn gyffredinol ac yn iachach.

Sut bydd mwg ail law yn effeithio ar y babi ar ôl ei [g]eni?

Mae babis a phlant sy'n byw mewn awyrgylch fyglyd:

  • Ddwywaith mor debyg i gael asthma a haint y frest
  • Yn fwy tebygol o fod angen gofal mewn ysbyty yn ystod eu blwyddyn gyntaf
  • Yn absennol o'r ysgol oherwydd salwch yn amlach
  • Yn cael peswch, annwyd a gwichian yn amlach

Mae rhai o aelodau fy nheulu'n ysmygu. Beth gallaf ei wneud ynghylch risg ysmygu goddefol?

Yn ddelfrydol, dylai babis a phlant fod mewn awyrgylch di-fwg trwy'r amser. Os bydd rhywun am ysmygu yn eich ty chi, gofynnwch iddynt fynd tu allan i gael sigarét. Os nad yw hyn yn bosibl, ceisiwch gadw un ystafell gyda digonedd o awyr iach i'r bobl sydd am ysmygu, ar wahân i'r babi. Bydd hyn yn golygu fod eich babi yn llai tebygol o gael ei niweidio oherwydd y mwg.

Bydd cadw plant a babis allan o awyrgylch fyglyd yn helpu atal:

  • Peswch, annwyd a haint ar y frest
  • Ymosodiadau asthma
  • Mynd â'r plentyn i'r ysbyty
  • Llid yr ymennydd
  • Haint y glust a gormod o gwyr yn y glust, sy'n achosi i'r plentyn fod yn rhannol fyddar
  • Marwolaeth yn y crud

Beth allwch ei wneud i ddiogelu babis a phlant?

Gellir eu diogelu trwy gadw'r mannau lle maent yn chwarae, cysgu a bwyta yn hollol ddi-fwg.

Beth am deithio yn y car?

Mae mwg ail law yn fwy dwys tu fewn i gar. Gallwch leihau'r tebygolrwydd o blentyn yn teimlo'n sâl yn y car, a gwneud gwahaniaeth positif i'w [h]iechyd trwy beidio ag ysmygu pan mae'r plentyn yn teithio gyda chi yn y car.

Sut gallaf annog fy mhlant i beidio ag ysmygu?

Yn ôl gwaith ymchwil, mae plant sy'n byw gyda rhieni sy'n ysmygu yn llawer mwy tebygol o ysmygu eu hunain. Arfer anodd ei dorri yw ysmygu, felly mae'n bwysig eich bod yn annog eich plant i beidio â dechrau ysmygu.

At bwy gallaf fynd i gael help i roi'r gorau i ysmygu?

Gall eich doctor, eich bydwraig, nyrs practis, ymwelydd iechyd neu'ch fferyllydd roi cyngor i chi ar roi'r gorau i ysmygu.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

Yn seiliedig ar wybodaeth a gymerwyd (gyda chaniatâd) oddi wrth "S is for Smoking & Pregnancy" a "P is for Protecting Babies & Children From Secondhand Smoke" a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru