Rysáit sigarennau
'Dach chi'n diflasu ar wario llwyth o arian ar sigarennau masgynnyrch?
'Dach chi'n meddwl weithiau y byddai'n well cynhyrchu rhai'ch hunan?
Wel, gadewch inni gychwyn gyda rhestr siopa. Dyma'r cynhwysion fyddai angen cadw yn y cwpwrdd er mwyn cychwyn ar y rysáit hwnnw...
Un sigarét
Digon i 1
- Nicotin: cyffur cryf cyflym caethiwus
- Carbon monocsid: nwy gwenwynig a gynhyrchir gan beipen wacáu car
- Tar: hylif du gludiog yn debyg i'r hyn a ddefnyddir i roi wyneb newydd ar ffordd
- Amonia: un o gynhwysion stwff glanhau'r toiled
- Cadmiwm: metel hynod o wenwynig a ddefnyddir mewn batris
- Cloridfinyl: a ddefnyddir i gynhyrchu PVC
- Syanid: gwenwyn angheuol a ddefnyddiwyd yn y siambrau nwy
- Fformaldehyd: a ddefnyddir i gadw cyrff meirw
- Arsenig: un o gynhwysion gwenwyn lladd llygod mawr
- Ethanol: a ddefnyddir mewn hylif gwrth-rewi
- A, mymryn bach o 3985 o gemegau eraill.
Cymysgwch yn drwyadl ac ysmygwch.

