Pam ddylech chi roi'r gorau iddo
Rhowch gynnig ar yr arbrawf cyflym hwn:
- Cymerwch lond ceg o fwg OND PEIDIWCH Â'I ANADLU I MEWN. Chwythwch y mwg allan drwy hances bapur. Mae'r mwg yn gadael staen brown (tar).
- Rwan, cymerwch lond ceg o fwg mewn i'ch ysgyfaint yn y ffordd arferol. Chwythwch allan trwy hances bapur. Ychydig iawn o staen a geir - neu ddim o gwbl.
Ble mae'r tar felly?
Beth sydd mewn sigarét?
Mae mwg sigarennau yn cynnwys dros 4000 o gemegau, llawer ohonynt yn niweidiol i'r corff. Os am weld rhai o'r sylweddau sydd ym mwg sigarennau, ewch at yr adran rysáit sigarennau.
Y tri phrif sylwedd a geir ym mwg sigarennau yw:
- Nicotin - cyffur cryf, cyflym a chaethiwus yw hwn - yr un mor gaethiwus â heroin a chocên. Pan fyddwch yn ysmygu sigarét, mae'r nicotin yn mynd syth mewn i'ch llif gwaed. Mae Nicotin yn effeithio ar y corff mewn llawer o ffyrdd, er enghraifft trwy ysgogi'r system nerfol, cynyddu pwysedd eich gwaed, a gwneud i'ch calon guro'n gyflymach.
- Carbon monocsid - nwy gwenwynig a gynhyrchir wrth i bethau losgi. Yn aml mae'n dod o beipen wacáu car a thannau nwy sydd â nam arnynt. Os ydych yn ysmygu, mae carbon monocsid yn cymryd lle peth o'r ocsigen ddylai fod yn symud o gwmpas eich corff. Gall hyn arwain at nifer o bryderon iechyd, gan gynnwys clefyd y galon.
- Tar - pan fydd y tar sydd mewn sigarét yn twymo, mae'n troi'n frown ac yn debyg i driog. Wrth i chi ysmygu, mae'r sigarét yn gadael 70% o'i dar yn eich ysgyfaint, ac felly yn eu tagu. Mae llawer o'r sylweddau yn y tar yn niweidio'r ysgyfaint, yn achosi problemau resbiradol, a chanser yn aml.
Pa risgiau iechyd sydd ynghlwm wrth ysmygu?
Mae ysmygu'n achosi, neu'n gwaethygu, nifer fawr o glefydau ac anhwylderau. Rhoddir isod fanylion rhai ohonynt:
- canser yr ysgyfaint
- pwysedd gwaed uchel
- osteoporosis
- mathau eraill o ganser, gan gynnwys:
y geg, y trwyn a'r gwddf, y stumog, yr iau, yr arennau, y bledren, y pancreas, yr oesoffagws, ceg y groth, y ffaryncs, a'r laryncs
- clefyd y galon
- strôc
- madredd
- wlserau'r stumog
- emffysema
- broncitis
- niwed i blentyn yn y groth
Buddion rhoi'r gorau i ysmygu
Ymysg rhai o fuddion rhoi'r gorau i ysmygu mewn perthynas ag iechyd, mae:
- byddwch yn llai tebygol o gael trawiad ar y galon, strôc, a mathau o ganser pan fyddwch yn hyn
- byddwch yn cael annwyd yn llai aml, a ni fydd y ffliw cynddrwg
- bydd eich ysgyfaint yn cael gwared ar fwcws
- bydd lefelau ocsigen yn cynyddu trwy gydol eich corff.
Ochr yn ochr â'r buddion iechyd, edrychwch ar yr holl bethau eraill fydd yn gwella ar ôl i chi roi'r gorau i ysmygu:
- bydd eich anadl, gwallt a dillad yn arogli'n fwy ffres
- bydd eich croen yn lanach, a byddwch yn cael llai o grychau
- bydd eich synhwyrau blasu ac arogli'n dod yn ôl
- bydd staeniau ar eich dannedd a bysedd yn diflannu
- bydd gennych fwy o egni
- bydd yn haws gwneud ymarfer corff ac ymdrechu i wneud pethau
- pan fydd hi'n oer, bydd eich bysedd a bysedd eich traed yn teimlo'n gynhesach
- bydd eich corff yn clirio allan cemegau gwenwynig megis carbon monocsid
- ni fyddwch yn peswch fel ysmygwr
- bydd briwiau'n gwella'n gynt.
Bydd eich hunanhyder a'ch balchder yn gwella:
- byddwch yn teimlo eich bod yn gallu rheoli pethau
- byddwch wedi profi'ch hunan i bobl eraill
- efallai y byddwch wedi ysbrydoli rhywun arall i roi'r gorau iddo
- byddwch yn gwybod nad ydych yn gwneud niwed i bobl eraill wrth i chi ysmygu
- ni fyddwch yn ychwanegu at lygredd
- byddwch yn falch eich bod wedi torri'r grym roedd gan y nicotin dros eich bywyd chi
- byddwch yn teimlo'n dda amdanoch chi'ch hunan.
Ac, os nad yw hynny'n ddigon i'ch darbwyllo, edrychwch ar faint o arian fyddwch yn ei gynilo!
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Atgynhyrchwyd peth o'r wybodaeth ar y dudalen hon gyda chaniatâd caredig y Comic Company

